Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lle y pregethwyd y bregeth gyntaf erioed gan y Methodistiaid yn ardal Corris. Cedwid yr ysgol yn y lle hwn oddeutu 1850. Yn y flwyddyn 1854, adeiladwyd capel gan y Methodistiaid, ychydig yn fwy na hwn, o fewn dau ergyd careg iddo, yr ochr arall i'r afon, ar fin y ffordd newydd sydd yn arwain o Fachynlleth i Ddolgellau, a galwyd ef Bethania. O'r pryd hwn allan, dechreuwyd galw y rhan hon o'r gymydogaeth yn Bethania, oddiwrth enw y capel. Yr oedd y capel hwn o dan reolaeth yr eglwys yn Nghorris, i gadw ysgol, a chyfarfod gweddi, ac ambell bregeth. Fel yr oedd y boblogaeth yn cynyddu, bu raid cael capel newydd eto, ac yn 1867 adeiladwyd y capel presenol wrth dalcen y llall. Gall 207 eistedd ynddo, a chyfrifid gwerth y capel, a'r meddianau cysylltiedig âg ef, yn 1883, yn 950p. Y rhai a ofalent am y capel a'r moddion ynddo yn flaenorol i hyn oeddynt, yn benaf, y brodyr ffyddlawn Evan Owen, y Voty, a William Jones, Hillsboro.' Y ddau wedi marw erbyn hyn er's tro. Thomas Hughes, Rhognant, hefyd, a fu yn ffyddlawn a blaenllaw gyda'r achos yma hyd ei farwolaeth. Ac anfonid brodyr yn awr ac yn y man i fyny o Gorris i gynorthwyo. Erbyn tua 1865, yr oedd Mr. Samuel Williams, Rugog, wedi dyfod i fyw i'r ardal. Llanwodd ef le mawr gyda'r achos ar unwaith, a chymerodd ei le i flaenori, gan ei fod yn hen swyddog eisoes. Eto, rhan o Gorris oeddynt. ymhob ystyr, ac ni ffurfiwyd hwy yn eglwys ar eu penau eu hunain am ddwy flynedd ar ol adeiladu y capel hwn. Fel hyn y ceir yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Ebrill, 1869,— Rhoddwyd caniatad i gyfeillion Corris i wneyd hen gapel y Gaerwen yn ddau dŷ." Dengys y penderfyniad uchod mai Corris oedd yn rheoli amgylchiadau y capel y pryd hwn. Yn mhellach, ceir yn Nghyfarfod Misol Medi, 1869, tra yr ydoedd y Parch. W. Davies, Llanegryn, yn ysgrifenydd, y penderfyniad canlynol," Gofynwyd ar ran y cyfeillion sydd yn perthyn i gapel Bethania, Corris, am gael eu ffurfio yn eglwys ar eu penau eu hunain; ac wedi cael adroddiad o'r amgylchiadau, a