Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/191

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nifer y cyfeillion sy'n perthyn i'r lle, cydsyniwyd â'r cais, a phenodwyd y Parchn. F. Jones, a Robert Owen, M.A., i fyned yno gyda golwg ar hyny." Eto, yn Nghyfarfod Misol Corris, Tachwedd yr un flwyddyn,—"Hysbyswyd gan y Parchn. F. Jones, a Robert Owen, M.A., iddynt fod yn Bethania, ar ei sefydliad yn eglwys ar wahan oddiwrth Rehoboth, a bod yr eglwys yr un adeg wedi dewis gydag unfrydedd mawr y brodyr Edward Humphreys a D. Richards, i fod yn flaenoriaid." Yr oedd yno felly yr adeg hon dri blaenor, cydrhwng y ddau hyn a Mr. S. Williams. Y mae Mr. Edward Humphreys wedi symud i Gorris, a Mr. D. Richards wedi symud er's tro i Gaerdydd. Yn niwedd 1870 y ceir cyfrifon eglwys Bethania gyntaf ar ei phen ei hun, fel y canlyn:—

Mewn cymundeb, 59; gwrandawyr, 190; Ysgol Sabbothol, 115; casgliad at y weinidogaeth, 31p. 8s. 5½c; cyfanswm, 80p. 11s. 10c. Yr ydoedd yn "Daith Sabbothol" y pryd hwn gyda Corriş. Yn 1873 yr aeth Bethania ac Ystradgwyn gyda'u gilydd. Nodweddir yr eglwys hon hefyd, yn gystal â'r canghenau eraill a darddodd allan o Gorris, gan weithgarwch digyffelyb; nid ydyw yn ail i'w chwiorydd a'i mam mewn gweithredoedd da yn ol ei gallu. Y mae yn perthyn i'r eglwys nifer fawr o blant a phobl ieuainc, y rhai sy'n cael eu hegwyddori yn rhagorol yn egwyddorion crefydd. Yn yr arholiadau, a materion Cymanfaoedd Ysgolion y dosbarth, enilla plant yr eglwys hon glod ac enw da iddynt eu hunain y blynyddoedd diweddaf hyn. Yr oedd yr eglwys dan arolygiaeth y Parch. Evan Jones tra yr ydoedd ef yn weinidog ar eglwys Corris. Ac y mae eto (1887) o dan ofal y Parch. W. Williams, er adeg ei ymsefydliad yntau yn yr ardal, yn 1873. Ychydig flynyddau yn ol, wrth weled y boblogaeth yn myned ar gynydd, prynodd yr eglwys ddarn o dir newydd, gyda'r bwriad o adeiladu capel helaethach; ond gan fod y boblogaeth yn awr yn lleihau, y mae adeiladu y capel hwn wedi ei oedi.

Er ieuenged yw yr eglwys, nid oes yr un o'i swyddogion