Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/196

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mor bell ag yr ydym wedi cael allan, y crybwylliad cyntaf am bregethu gan yr Ymneillduwyr yn nhref Towyn ydyw, yr hanes am yr odfa a gynhelid ar Ben y Bryn, gan y gwr ieuanc, Mr. William Jones, o Fachynlleth, pan y ceisiwyd rhoddi y cŵn hela i udo, er mwyn rhwystro y bregeth, yr hwn hanes a roddwyd o'r blaen yn y benod ar "Yr Erledigaeth." Daeth William Jones yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Machynlleth, yn niwedd y flwyddyn 1788, a bu farw ymhen dwy flynedd. Felly, traddodwyd y bregeth gyntaf y mae hanes am dani yma oddeutu y flwyddyn 1789.

Yr hanes nesaf ydyw am dröedigaeth Edward Williams, dilledydd, y pioneer cyntaf gydag achos y Methodistiaid yn Nhowyn. Y tebyg ydyw i hyn gymeryd lle naill ai yn 1789 neu 1790. Cafodd ef addewid am bregeth yn ei dŷ ychydig amser ar ol ei dröedigaeth. Dywedir, hefyd, yn mhellach, am dano "Bu am ychydig yn cadw ei dŷ i'r Cynghorwyr,' heb fod nemawr sylw yn cael ei dalu iddo. Ond ymhen enyd, daeth gŵr lled gyfrifol, o'r enw Francis Hugh, yn ymlynwr wrth "deulu'r weddi dywyll." Dywed Lewis Morris, hefyd, yn Adgofion Hen Bregethwr: "Mr. Francis Hugh, yn Nhowyn, a fu yn gynorthwyol i'r achos yn foreu iawn, ac y mae ei deulu yn cadw y drws yn agored hyd heddyw (1846)." Felly, y ddau wr da hyn, yn ddiau, bia y clod o ddechreu yr achos yn Nhowyn. Gyda y rhai hyn yr oedd Daniel ac Evan Jones, Dyffryn—gwyn, a John Jones, Penyparc, yn ymgynull. A byddai y gymdeithas grefyddol (society) yn cael ei chynal bob yn ail yn Nhowyn a Phenyparc. Er hyny, ymgynull mewn rhan yn ddirgelaidd y byddent yn y naill le a'r llall, oherwydd fod y boneddwr gerllaw, yr hwn a feddai ddylanwad mawr ar y werin—bobl o'u deutu, yn gosod ei ofn arnynt. Hysbysir yn Methodistiaeth Cymru, a hyny, ni a dybiwn, oddiar dystiolaeth John Jones, Penyparc, ei hun, fod y boneddwr hwn wedi rhoddi terfyn ar y pregethu a'r moddion crefyddol yn Penyparc am dymor byr, ac wedi myned a'r ysgoldy oedd ganddo yn