Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/198

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gwneir yn awr; ac o dipyn i beth, daeth yn arferiad i gynal yr ysgol ar brydnhawn Sabbath, yn yr un tŷ ac ar yr un cynllun. Y personau fuont fwyaf ffyddlon yn ei sefydliad oeddynt, William Dafydd, Glan y mor, Edward William, Shoned y Gwalia, John Jones, Penyparc, a Catherine Williams, Gwalia. Yr oedd gwrthwynebiad i'w chynal ar y Sul gan rai hen bobl grefyddol ar y dechreu.

Rhydd y Parch. Cadvan Jones, yn ei draethawd ar Ymneillduaeth Plwyf Towyn, yr hanes a ganlyn a gymerodd le ynglŷn â'r ysgol hon pan oedd yn ei mabandod: "Cof genyf glywed adrodd yr hanesyn canlynol gan un o'r rhai euog eu hunain, yr hwn a ddengys, i fesur, sefyllfa feddyliol y bechgyn oedd gan Mr. Jones o'i flaen, i geisio gwneyd rhywbeth o honynt. Daeth tua haner dwsin o lanciau i'r ysgol un prydnhawn Sul, a drwgdybiodd Mr. Jones eu bod wedi bod wrth eu hen a'u hoff waith o chwareu y bêl droed. 'Lanciau,' ebe fe, 'Yr ydych wedi bod yn tori y Sabbath eto, ac y mae y bêl gan un o honoch, yr wyf yn siwr.' Amneidiwyd arno i chwilio llogellau un o'r bechgyn. Aeth Mr. Jones ynghyd a'r gwaith. Gyrodd ei law i logell y bachgen, a theimlai rywbeth yn dra chwithig yno. Tynodd ei law yn ol can gynted ag y gallai, ond ychydig yn rhy ddiweddar; yr oedd wedi ei boddi hyd yr arddwrn mewn pwllfa o wyau gorllyd a ddigwyddai fod yn llogell y bachgen ateb rhyw ddiben direidus."

Yn yr un flwyddyn ag y cychwynwyd yr Ysgol Sul gan y Parch. Owen Jones, sef 1803, y ffurfiwyd eglwys gan yr Annibynwyr yn Nhowyn. Fel hyn yr adroddir gan un oedd yn bresenol yn ei sefydliad :—"Yn ffurfiad yr eglwys ymneillduedig yn Nhowyn, yr oedd Mr. Pugh (Brithdir), ac ysgrifenydd y cofiant hwn [y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair] yn bresenol, a chanddynt hwy y gweinyddwyd Swper yr Arglwydd y tro cyntaf yn y dref, yn ol trefn yr Annibynwyr. Yr wyf yn meddwl fod hyn yn y flwyddyn 1803." Fe gofir fod eglwys