Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yno. Ac yn mhlwyf Llanfihangel-y-Penant, y mae gweddillion hen gastell, yr hwn a clwid Castell Teberri, nen Castell y Beri, ac fel y gelwir ef yn awr Castell Caerberllan. Tybia Pennant, yr hanesydd, mai hwn ydoedd Castell Bere, ac mai efe ydoedd amddiffynfa "Llywelyn ein llyw olaf." Y mae ffermdy, neu Plâs Aberllyfeni hefyd yn lle o urddas hynafol, ac ar ei furiau luniau ac arf-beisiau hen wroniaid Cymreig. Dywedir i Counsellor Flutton, awdwr History of Pembrokeshire, fod yn byw ynddo yn hir. Cydrhwng Llanegryn a Llwyngwril, ar ben uchaf y bryn, y mae "Gwastad Meirionydd." Hynodrwydd penaf y lle hwn yn awr ydyw fod yno ysbotyn o le yn cynwys ychydig iawn o amgylchedd, pan yn sefyll ynddo, nis gellir gweled na mynydd na môr o hono, er fod y naill a'r llall yn ymyl. Yn agos i Lanegryn, hefyd, y mae Peniarth Uchaf. Yn y llyfr, Rhyfeddodau y Byd Mawr, a gyhoeddwyd yn Nolgellau, yn y flwyddyn 1827, gwneir y crybwylliad canlynol am y lle hwn: "Y pwys cyntaf o dê a ddaeth i Gymru, am a wyddis, ydoedd anrheg a anfonodd pendefiges o Gaerludd i wraig fonheddig oedd yn byw yn Peniarth Uchaf, Swydd Meirion, yn y flwyddyn 1700."

Gwelir olion amryw helyntion yr oesoedd gynt yn ardal Pennal. Yn agos i'r pentref, y mae amaethdy Cefncaer, yr hwn oedd wersyllfa gadarn gan y Rhufeiniaid yn amser yr Ymerawdwr Honorius. Dywed traddodiad fod ffordd yn arwain oddiyma o tan y ddaear, ac o tan afon Dyfi i dy Owain Glyndwr, yn Machynlleth. Y mae swn gwagder i'w glywed wrth gerdded ar wyneb y ddaear yn agos i'r lle, ac yr oedd hen bobl yn byw yn yr ardal ychydig ddegau o flynyddoedd yn ol, a dystient eu bod wedi gweled pen y ffordd. Credir hefyd, medd haneswyr, fod ffordd Rufeinig yn arwain o Conovium, ger Conway, i Lucarum, ger Abertawe, gan basio heibio Ddolgellau, a thros fraich Cader Idris, heibio i Bennal, ac yna trwodd i'r Garreg, yn Sir Aberteifi. Ymladdwyd brwydr yma rhwng pleidwyr tŷ Lancaster â phleidwyr tŷ Caerefrog, a