Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/200

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones uchod yn gyfeillion mawr—yr oeddwn yn teimlo serch ac anwyldeb mawr tuag ato, a gwyddwn fod ganddo yntau ofal mawr am danaf finau." Ychwanegwyd darn rywbryd at hen gapel y Gwalia, fel y dangosai y ddwy golofn oeddynt wedi eu gosod o flaen y pulpad, i ddal y tô i fyny. ddengys fod dyled y capel hwn wedi ei chlirio yn y flwyddyn 1839.

Ychydig sydd o hanes Lewis William, yr hen ysgolfeistr, mewn cysylltiad â Thowyn. Ond yr oedd ef yma yn cadw ysgol ddyddiol yn y flwyddyn 1818, a chanddo 92 o blant yn yr ysgol. Y mae enwau pob un o'r rhai hyn ar gael yn llawysgrif L. W., a'u hoedran, a'u "graddau mewn dysg." Amrywia eu hoedran o 5 i 14. Nid oedd dim ond 10 o honynt yn dysgu ysgrifenu; 7 yn darllen yn eu Beiblau; 26 yn eu Testamentau; 66 yn yr A B C, sillebu, a darllen yn y llyfr corn, Dim un yn yr ysgol wedi myned mor bell ag i ddysgu rhifyddiaeth.

Wedi i'r erledigaeth fyned heibio, ac i grefyddwyr amlhau, yr oedd llawer o bregethwyr dieithr yn teithio trwy Towyn. Adroddir hanesyn dyddorol gan y Parch. D. Cadvan Jones, am ymweliad cyntaf Mr. Williams, o'r Wern, a'r dref. "Aeth dau o'r brodyr a berthynent i'r Annibynwyr i'w gyfarfod, a chyfarfyddasant à gŵr ieuanc o edrychiad ysmala, dirodres, a difater, ar gefn merlyn bychan. Yr oedd y naill a'r llall o'r ddau aethant i'w gyfarfod yn lled ofni nad efe oedd y gŵr dieithr, gan nad oedd ymddangosiad pregethwrol ganddo. Boed a fo, gofynwyd iddo, 'Ai chwi yw y gŵr dieithr sydd i bregethu gyda'r dissenters heno? 'Ie,' ebe fe, 'beth am hyny? O, dim, syr, ond ein bod wedi dyfod i'ch cyfarfod.' Aeth ef a'r ddau arweinydd ymlaen, ac erbyn cyraedd y dref, digwyddodd amgylchiad eto o flach tŷ penodol a barodd iddynt ameu ai efe oedd y pregethwr. Modd bynag, ni ddywedasant ddim i amlygu eu drwgdybiaeth. Y noson hono, yr oedd Mr. Griffith Solomon i bregethu gyda'r Methodistiaid, a chafwyd