Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/201

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwy fawr gymell a chrefu, ganiatad i roddi y gŵr dieithri bregethu gydag ef, gan y tybiai yr ychydig frodyr na chaent neb i'w wrandaw pe cedwid y ddwy odfa ar wahan. Aeth y ddau arweinydd tua'r capel, ac yr oedd Griffith Solomon ychydig yn ddiweddar, a Mr. Williams wedi dechreu. Pan y daeth Griffith Solomon i mewn, edrychodd i fyny, rhuthrodd i'r pulpud, ac ymaflodd yn y gŵr dieithr yn ddiseremoni, a chymerodd ei le ef. Wel, wel,' ebe y ddau arweinydd ynddynt eu hunain, "does dim amheuaeth bellach nad twyllwr ydyw y gŵr ieuanc, ac y mae y Methodist yn ei 'nabod.' Yr oedd y Methodist yn ei 'nabod, a dyna'r pa'm y mynai y blaen. Cafwyd odfa y cofiwyd am dani byth gan y sawl a'i clywsant hi, ac er mawr lawenydd i'r ddau frawd, yr oedd yr hen Edward William, oedd mor wrthwynebol i adael i'w pregethwr gyd-bregethu â phregethwr y Methodistiaid, y cyntaf ar ei draed, ac yn uwch ei gloch na neb."

O'r adeg yr adeiladwyd y capel cyntaf am ysbaid ugain mlynedd, sef o 1814i 1834, bu yr achos yn gorphwys yn benaf ar ysgwyddau Hugh Jones a'i briod, a Miss Jones, Gwalia. Nodir 1834, am mai y flwyddyn hono y daeth Mr. W. Rees i fyw i Dowyn, a bu yr achos yn gysylltiedig â'i enw ef wedi hyn dros 40 mlynedd. Yr oedd Miss Jones yn chwaer i'r diweddar Barch. Owen Jones, y Gelli. Preswyliai hi wrth ochr y capel, a chan ei bod mewn amgylchiadau cysurus o ran moddion, a chanddi hefyd galon i weithio, bu yn gynorthwy mawr i'r achos yn Nhowyn Bu fyw i oedran teg, a pharhaodd ei ffyddlondeb hyd y diwedd. Hugh Jones ei hun a ddywed, "Wedi i fy anwyl wraig ddyfod i Dowyn, gellir dweyd iddi fod yn ymgeledd gymwys i weision yr Arglwydd am 32 mlynedd." Gwir a ddywedai yr hen bererin am ei briod ymroddgar. Tystiolaeth y wlad yn gyffredinol ydoedd ei bod hi yn wraig dra rhinweddol; nid yn ol i neb yn ei hoes am ei lletygarwch. Mynych y coffheid yn y wlad, tuag ugain mlynedd yn ol, ddarfod i Hugh Jones a'i briod haner gynal yr achos yn y