Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/202

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dref, os nad mwy na hyny, am flynyddoedd meithion. Yr oedd y teithio mawr ymhlith y Methodistiaid yn ei fri uwchaf yr holl flynyddoedd y buont hwy ill dau yn cadw tŷ agored i bregethwyr. A chan fod Towyn ar ffordd llawer o'r De i'r Gogledd, ac o'r Gogledd i'r De, yr oedd nifer y pregethwyr a alwent yn eu tŷ am ymborth a llety yn ystod blwyddyn, yn llu mawr iawn. Nid gwaith bychan oedd "cadw mis" y pryd hwnw, ond i Hugh Jones a'i briod, nid mis ydoedd—llyncid y mis i fyny gan y flwyddyn, a'r flwyddyn gan y blynyddoedd. Amgylchiad pwysig yn Nhowyn am yn agos i haner canrif oedd y Gymdeithasfa flynyddol. Cynhaliwyd y gyntaf yn y flwyddyn 1807. Fel hyn y dywedir yn Methodistiaeth Cymru:—"Penderfynwyd cadw Cymdeithasfa yn Nhowyn ymhen tua deuddeng mlynedd ar ol hyn. Ni buasai yno yr un cyfarfod o'r fath erioed o'r blaen." Deuddeng mlynedd ar ol yr erledigaeth yn 1795 a feddylir. Cynhaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf ar yr heol, oblegid nid oedd yr un capel o fath yn y byd yn y dref. Cynhelid hi yn flynyddol yn Medi neu Hydref, o'r adeg hon ymlaen, a dyma ddigwyddiad pwysicaf y flwyddyn ymhlith y Methodistiaid yn yr holl ardaloedd hyn. Yn un o'r Cymdeithasfaoedd hyn y daeth y Parch. Dr. Owen Thomas gyntaf i sylw yn y rhan yma o Gymru (yn 1842, fel y tybiwn), a gwnaeth argraff gofiadwy ar y wlad trwy ei bregeth rymus ar y geirian, "A'r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt." Paham y rhoddwyd y Gymdeithasfa flynyddol i fyny ddeugain mlynedd yn ol, nid ydym wedi cael gwybodaeth foddhaol. Yn Mehefin, 1885, y cynhaliwyd Cymdeithasfa Chwarterol reolaidd y Gogledd yma gyntaf. Cynhaliwyd y cyfarfodydd pregethu ar y maes yn ymyl y capel, a'r cyfarfod ordeinio yn yr un lle. Am y Gymdeithasfa hon, erys adgofion hyfryd, oherwydd yr hwylusdod a gafwyd gyda'r trefniadau, a'r llewyrch a fu ar y moddion.

Ymhen amser ar ol agor y rheilffordd drwy y lle, cynyddodd poblogaeth y dref, a chynyddodd rhif cynulleidfa ac eglwys y