Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cael eu holi gan y Parch. Owen Jones, y Gelli. Edward Williams oedd yn dechreu y cyfarfod cyhoeddus. Safai yn syth cyn dechreu darllen a dywedai, "Gwnewch ddal sylw i gyd; yr ydym yn myned i ddarllen gair yr Arglwydd; mae a fyno pob gair o'r benod yr ydym yn myn'd i'w darllen â phob un o honoch chwi sydd yn bresenol." Dyna yr hyn a effeithiodd gyntaf erioed ar un o'r plant ieuainc oedd yn y dyrfa, a ddaeth wedi hyny yn Gristion gloew. Ymddengys mai duwioldeb a zel oedd rhagoriaethau penaf yr hen Gristion hwn. Deuai Owen William, y pregethwr, o Fryncrug i Dowyn i gadw seiat weithiau. Tuedd yr hen bregethwr oedd myned yn ddwfn, at gorn ei wddf mewn athrawiaeth a duwinyddiaeth. Dyfod a phynciau ymlaen y byddai i'w trafod yn y seiat. "Pw, pw, pw!" ebe Edward Williams, "mae yn bosibl myned i'r nefoedd heb fyned ar ol pethau fel yna." Adroddai ei hun am dano ei hun un tro wedi bod yn Sasiwn Caergybi. Dilynodd un o'r pregethwyr wrth ddyfod adref, yr holl ffordd o Gaergybi i'r Abermaw, heb dderbyn dim bendith; ond yn y Bermo cafodd wledd i'w enaid wrth wrando yr un bregeth ag a glywsai amryw weithiau ar ei daith. Dengys hyn nad ydoedd yn wlith a gwlaw bob amser ar yr hen bobl. Tystiolaeth awgrymiadol un o drigolion hynaf Aberdyfi am yr hen bererin Edward Williams ydyw, y byddai yn ei hen ddyddiau ar Sabbath yr Ordinhad bob amser yn gofalu am roddi ei ddillad goreu am dano.

William Dafydd, Glanymor, oedd un o'r blaenoriaid hynaf. Coffheir am dano hefyd yn flaenllaw gyda chynhaliad yr Ysgol Sul. Honai efe berthynas â Catherine Williams, ysgogydd cyntaf y Methodistiaid yn y rhanau yma o'r wlad. Ychydig sydd o'i hanes hi ar gael, ond dywedir yn Methodistiaeth Cymru mai hi roddodd gychwyniad cyntaf i grefydd yn y parthau hyn, Richard Davies, mab i W. D., Glanymor, oedd yn flaenor, ond bu farw yn ieuanc.

Benjamin Williams. Mab oedd ef i Edward Williams;