Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/206

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bedyddiwyd fi yn y Llan, ar y 9fed o'r un mis. Enwau fy rhieni oeddynt, Hugh ac Elizabeth Jones. Yr oedd fy nhad yn gadben ar long o'r enw John & Ann.' Bu farw yn Mangor, ac a gladdwyd yn yr un lle pan oeddwn i oddeutu 7 neu 8 oed. Pan oeddwn yn 12 oed, prentisiwyd fi ar y môr am 4 blynedd gyda hen fate fy nhad.

"Pan yn Liverpool, newydd fyned i mewn un Sabbath, daeth fy mrawd John heibio i mi, a chymhellodd fi i ddyfod gydag ef i wrando ar Michael Roberts, y pryd hwnw yn ddyn ieuanc. Pregethai mewn hen warehouse. Yr ydoedd hyn yn ystod yr heddwch byr rhyngom â Ffrainc (1801). Wedi dychwelyd i'r llong, ceryddwyd fi gan y cadben am fyned gyda fy mrawd heb ofyn ei genad ef. Ar hyn, aethum i'r lân am ychydig ddyddiau. Cynghorwyd fi i orphen fy mhrentisiaeth gan hen ewythr i mi. Ar ol myned allan i'r môr, taflodd y cadben fy nillad i mi i'r deck, a gorchymynodd fi i fyned i'r forecastle, a darostyngwyd fi i'r swydd iselaf, sef coginio wrth y caboos, pryd yr oedd tri o'r prentisiaid yn iau na mi. Cymaint oedd fy nhrallod y pryd hwn, fel y temtid fi i ymadael â'r môr; ond cadwodd y Llywodraethwr Mawr ei law arnaf—a dilyn y swydd o goginio y bum y daith hono i Lundain, hyd nes y dychwelais i Liverpool; ac ar y fordaith olaf hon, buom agos iawn a cholli ar dir yr Iwerddon. Yn Liverpool, y tro olaf, diengais tuag adref, am fod fy iau yn rhy drom. Chwiliai y cadben a'r swyddogion am danaf. Yr oedd dynion y pryd hyny yn brinion, am fod y rhyfel rhyngom â Ffrainc wedi ail ddechreu. Yr oedd y llong pan ddiengais yn barod i gychwyn am Lundain, a dychwelodd i Liverpool yn ddiogel; ond ar yr ail fordaith i Waterford, collodd y cyfan—y llong a'r dwylaw ar dir Iwerddon. Wedi dychwelyd adref, prentisiwyd fi eilwaith gyda'm brawd-yn-nghyfraith yn skinner.

"Pan oddeutu 16 oed, ymaflodd rhywbeth yn fy meddwl, wrth wrando ar Ellis Roberts, Stay Little, Sir Drefaldwyn, a chloffwyd fi fel na allwn gicio y "bêl droed" ar y Sabbothau fel