Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/207

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynt. Ymdrechais fyned i "noswaith lawen" unwaith wed'yn, ond nid oedd dim blas i mi yno, a dychwelais adref. Fy mam, wrth fy ngweled wedi dychwelyd adref mor fuan a ofynodd, "Pa'm y dost ti mor fuan, y machgen i?" "Ffarwel iddynt am byth, mam," meddwn inau, "nid af iddynt byth mwy." A gallaf ddweyd i mi gael pleser can' mil purach yn eu lle. Wrth ddychwelyd o Sasiwn Caernarfon, mewn lle a elwir "Gwastad Meirionydd," yn ngolwg Dyffryn Towyn, daeth i fy meddwl, Pa beth i'w wneyd i godi crefydd yn y wlad? Tarawyd fi gan y geiriau hyny, "At bawb yn Rhufain, yn anwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint;" a meddyliais mai ymarfer â phregethu ac â'r gair ydoedd Duw wedi ei drefnu i ddychwelyd pechaduriaid annuwiol i fod yn saint. Nid oedd yr un capel yn y dref y pryd hwn gan yr un enwad; a chedwid cyfarfodydd gweddïo a phregethu mewn tŷ bychan, yr hwn sydd yn sefyll hyd heddyw; ac yn y cyfarfodydd hyny dechreuais ddweyd tipyn bach oddiwrth benod a ddarllenwn, yr hyn beth a ddisgwyliai y brodyr i mi wneyd. Yr oeddwn yn cael fy nghymell yn fy meddwl i geisio cynghori tipyn ar y bobl yn barhaus; ac wrth ddychwelyd o'r wlad, ar gyfer lle bychan a elwid Felin Fwn, daeth yr adnod hono yn rymus i fy meddwl, "Ymdröant ac ymsymudant fel meddwyn, a'u holl ddoethineb a ballodd. Yna y galwasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder." Ac felly yr oeddwn inau gyda golwg ar fyned i bregethu, yn rhyw droi ac ymsymud heb wybod beth i'w wneyd, a hyny o ddoethineb a feddwn wedi pallu, ac yn ofni yn fawr mai rhyfyg ynof ydoedd y fath waith. Ac oddeutu yr un adeg, mewn ffair yn Nolgellau, wrth weled y bobl yn ymladd ac yn terfysgu, daeth y geiriau hyny yn rymus i fy meddwl, "Dos, a dywed wrth y bobl hyn." Ac yn y dyddiau hyny aethum i gladdu cymydog i mi ydoedd wedi marw yn Aberystwyth, sef Mr. Robert Jones, brawd i'r diweddar Barch. Owen Jones, Gelli. Yr oedd hyny ar ddydd Sadwrn, yn mis Ionawr, 1814, a chymhellwyd fi gan gyfeillion i mi aros gyda