Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/208

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwy dros y Sul. Dywedent wrthyf fod y Parch. Ebenezer Richards i bregethu yn y dref am ddeg o'r gloch, ac yn nghapel y Garn am ddau. Aethum i a chyfaill i mi o Lanfred i'r dref i'w glywed, ac erbyn myned yno, ni ddaeth y pregethwr i'w gyhoeddiad. Aethum wedi hyny i gapel y Garn, ond ni ddaeth yno ychwaith; a rhai o'r cyfeillion wedi clywed fy mod yn dechreu dweyd tipyn tua'm cartref, a'm cymhellasant i fyned i'r pulpud, a phregethu i'r bobl, a minau, er yn anfoddlon, a aethum, a cheisiais ddweyd tipyn oddiwrth y geiriau hyny, "Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, yr anfonodd Duw ei Fab," &c. Cymerais ofal rhag mynegi hyn i'm cyfeillion gartref. Gwyddwn fy mod wedi tori y rheol, eisiau dechreu yn fy nghartref.

"Ar ol claddu fy anwyl fam bu yn fater gweddi genyf am flynyddoedd am i'r Arglwydd fy nghyfarwyddo i ddewis cynhares bywyd; ac yn Llandrillo y gwelais hi gyntaf. Bum yn ymweled â hi rai gweithiau. Daeth i fy meddwl o'r diwedd i ysgrifenu ati, i ofyn a wnai hi briodi—ar iddi ystyried y peth yn ddifrifol, ac ymgynghori â'r Arglwydd. Cefais ateb yn ol yn fuan yn dweyd ei bod hi yn cydsynio. Adroddai wrthyf ar ol hyn, iddi wedi derbyn fy llythyr agor y Beibl, a'r gair y disgynodd ei llygaid hi arno ydoedd atebiad Abigail i weision Dafydd, pan anfonwyd hwynt i'w cheisio yn wraig i Dafydd Wele fi yn llawforwyn i olchi traed gweision fy Arglwydd.' . . . . .

"Nis gallaf lai na chanfod llywodraeth yr Arglwydd ar fy nghyfeillion yn Nhowyn. Dangosasant lawer o sirioldeb tuag ataf yn eu rhoddion, i'm gwneyd yn gysurus yn ngwyneb fod fy nghof a'm golwg yn pallu. Gallaf ddweyd mai fy mhrofiad ar ddiwedd fy nhaith ydyw, gradd o syched am gymdeithas â'r Arglwydd cael ei weled Ef megis ag y mae, a bod byth yn debyg iddo.

Yr wyf yn teimlo rhwymau arnaf i fod yn ddiolchgar i'r Arglwydd am fy nghynal am 63 o flynyddoedd, heb fod yn ddolur llygaid i'm brodyr; a'm dymuniad a'm