Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/209

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweddi ydyw ar iddi fyned yn fwy goleu ar fy meddwl, a chael mwy o adnabyddiaeth o'r Arglwydd Iesu, a mwynhau mwy o gysuron cryfion yr efengyl."

Yr oedd yr hen bererin yn syml, yn ddidwyll, ac ymostyngar i ewyllys yr Arglwydd ar hyd ei fywyd. Bu mewn cysylltiad â masnach ran fawr o'i oes, ac yr oedd yn gefnog yn y byd. Mewn hen lyfr yn ei lawysgrif ef ei hun, gwelir fod ei gyfrifon masnachol a'i bregethau yn frith draphlith, darn o'r cyfrifon ar un tudalen, a darn o'r bregeth ar y tudalen arall. Yr oedd ei gymeriad yn uchel fel dyn gonest yn ei gysylltiadau â'r byd. Humphrey Davies, Corris, a ddywedai am dano yn y Cyfarfod Misol ar ol ei farw, "Yr oedd o a minau yn dipyn o oposisiwn i'n gilydd gyda phethau y byd yma, ond welais i ddim byd erioed yn llai na Christion yn Hugh Jones." Oherwydd ei gywirdeb fel dyn, a'i dduwioldeb fel Cristion, yr oedd ei ddylanwad yn fawr yn more a chanol ei oes yn ei dref a'i wlad ei hun. Fel un engraifft o'i ddylanwad, adroddir am dano yn darostwng cythrwfl mawr oedd un tro wedi tori allan mewn ffair yn Nhowyn, o flaen tŷ tafarn a elwir y Goat. "Pa le mae Hugh Jones?" ebe y bobl, "pe buasai ef yma, fe fuasai yn gwneyd trefn arnynt—lle mae o?" Ymhen enyd dacw H. J. yn dyfod i lawr oddiwrth ei dŷ, ac i ganol y dyrfa oedd yn y cyffro. Gwelid ei ddwylaw i fyny gan y bobl a edrychent ar y cyffro, ond nid oedd modd clywed yr hyn a ddywedai gan faint y swn oedd yno. Modd bynag, bu yn foddion i atal yr ymladd, ac i wasgaru y dorf. Adroddir aml i hanesyn cyffelyb am dano gan yr hen bobl, fel gŵr gwir grefyddol, a llawn eiddigedd i wneuthur daioni i'w gyd—ddynion. Rhoddodd lawer iawn o help i yru achos crefydd yn ei flaen mewn adeg isel arni, yn y wlad oddeutu yn gystal ag yn nhref Towyn. Bu yn cyd-oesi fel pregethwr am 20 mlynedd â'r Parch. Richard Jones, Wern, yr hwn a wnai ymhlith ei gyfeillion y sylw canlynol am dano, "Y mae ar Hugh Jones helynt garw gyda Dosbarth y Ddwy Afon bob amser; mae arno eisiau cychwyn