Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

thybir fod y Domen—las sydd ar dir Talgarth wedi ei chyfodi ar fedd y milwyr a syrthiasant yn y rhyfel hwn, a thybir yn mhellach fod Wtre y Parsel, sef y ffordd fawr rhwng Pennal a phentref y Cwrt, yn llawn o feddau hen filwyr. Y mae llythyr ar gael oddiwrth Owain Glyndwr at frenin Ffrainc, wedi ei ddyddio yn Mhennal. Yn y Darlundraeth o Fachynlleth a'i Hamgylchoedd, gan Ieuan Dyfi, ceir yr hanes canlynol am ddigwyddiad a gymerodd le yma yn 1402—

"Yn y pentref hwn (Pennal), unwaith y trigai yr hawddgaraf a'r decaf o holl wyryfon Gwynedd, Lucy Llwyd. Nis gall ei marwolaeth anhygoel a phruddglwyfus, er yn dra ffafriol i'w theimladau, lai na chynyrchu cydymdeimlad a thosturi. Yr oedd mewn carwriaeth â Llewelyn Goch ap Meurig o Namnau, bardd. Ond ei thad, mewn awr nwydus, ac yn anfoddlawn ir briodas, a gymerodd fantais oddiwrth absenoldeb ei chariad yn Nehendir Cymru, ac a geisiodd dori yr ymlyniad, a chyda'r diben hwn, dywedodd wrthi fod Llewelyn wedi ei gadael hi a phriodi un arall. Yr oedd yr ergyd yn fwy nag a allai gynal; syrthiodd i lawr a bu farw yn y fan, Llewelyn wrth ddychwelyd, ddiwrnod neu ddau wedi hyn, a frysiodd at anwylyd ei galon; ond y syndod disymwth o'i gweled wedi ei rhoddi yn ei harch, a effeithiodd gymaint ar ei synwyr, fel y syrthiodd yn farw ar y llawr. Pa fodd bynag, adfywiodd drachefn, a chyfansoddodd alargan, ymha un y darlunir gyda theimladau dyn wedi cael cam, â meddwl trallodedig, gymeriad y ragoraf ymhlith merched, ymha un y dywed fel y canlyn—

"Llyma hâf llwm i hoew fardd,
Llyma hâf llwm i fardd;
Nid oes yn Ngwynedd heddiw
Na lloer, na lewyrch, na lliw;
Er pan rodded trwydded trwch
Dan lawr dygn, dyn loer degweh.'"