Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/211

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yno gyda chysondeb nes oedd yn lled agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Ond fel yr oedd yr erledigaeth yn llacio, a'r drws yn agor i'r efengyl yn Machynlleth, agorid y drws hefyd yn yr ardaloedd o amgylch y dref. A'r adeg hon y dechreuodd pregethu yn achlysurol yn Mhennal.

Coffheir yn Methodistiaeth Cymru am un o grefyddwyr cyntaf Machynlleth yn myned i Bennal i wrando pregeth. Y pedwar cyntaf o Fethodistiaid yn y dref hono oeddynt, Griffith Simon, Dafydd Meredith, Ellis Richard, a John Pugh. Cafodd Griffith Simon lawer iawn o erledigaeth, ac yr oedd ei wraig ei hun yn ei erlid. Yr oedd ef un bore Sabbath wedi penderfynu myned i odfa a gedwid yn Mhennal; deallwyd ei fwriad gan ei wraig, a chuddiodd ei esgidiau o'r tu ol i ryw lestri gwerthfawr yn y cwpbwrdd. Daeth yntau yn y bore, cyn iddi hi godi o'r gwely, o hyd i'r esgidiau, a diangodd gyda phob prysurdeb i'w ffordd. Hwn yw y cyfeiriad cyntaf at bregethu yn Mhennal, a gallasai y digwyddiad gymeryd lle yn rhywle o 1780 i 1790. Yr unig gyfeiriad arall a geir yn Methodistiaeth Cymru at yr ardal ydyw a ganlyn,—"Pan oedd Dafydd Cadwaladr yn pregethu unwaith yn Mhennal, ger Machynlleth, daeth yno yswain a meddyg i aflonyddu. Dynwaredent y pregethwr wrth iddo ddarllen ei destyn, gan ateb eu gilydd a chwerthin yn wawdlyd, a gofyn i'r pregethwr, Pwy a ddywedodd hyna wrthyt ti?' Ceisiai rhywrai yn y gynulleidfa ganddynt dewi, ond gwaeth yr aent hwythau. Bellach, cerddodd anniddigrwydd trwy y gynulleidfa diffoddwyd y canwyllau, a dechreuwyd gwasgu y boneddwyr yn dost. Deallodd y gwyr bellach mai doethach oedd cilio ac ymgeisio am y drws; ond nid mor hawdd oedd dianc. Safai dynion cryfion rhyngddynt ag allan, gan osod eu bryd ar wasgu yr aflonyddwyr, nes rhoddi digon iddynt ar eu hystranciau drwg; a rhwng rhai yn eu gwasgu, ac eraill yn y tywyllwch yn eu troedio, clybuwyd hwy yn llefain yn groch am arbed eu bywyd. Ymhen rhyw ysbaid gollyngwyd hwy ymaith, ac i'r tŷ tafarn gerllaw yr aethant i lechu, wedi colli