Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/212

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pob awydd i aflonyddu ar gyfarfodydd o hyny allan. Bu farw yr yswain yr haf canlynol." Y mae maen coffadwriaeth yn eglwys y plwyf, yn dangos i'r yswain farw yn 1809. Bu farw y meddyg hefyd yr un flwyddyn. Y meddyg hwn oedd Dr. Pugh, y conjurer y soniwyd am dano o'r blaen. Nid oedd y weithred hon ar derfyn ei oes ond dangosiad o'r hyn ydoedd ar hyd ei fywyd. Efe oedd pen-erlidiwr yr ardal. Ddeunaw mlynedd cyn hyn, tra yr oedd Mr. William Jones, Machynlleth, pregethwr gyda'r Annibynwyr, yn Mhennal yn pregethu, bygythiai Dr. Pugh ef â marwolaeth, os byth y deuai yma drachefn. Rhyw ddiwrnod, ymhen amser wedi hyny, elai Mr. W. Jones i Bennal fel o'r blaen, gan fwriadu croesi Afon Dyfi. Pan yn dechreu ymddiosg, er gwneyd hyny, pwy welai ar y lan arall ond y bygythiol Dr. Pugh. Gan fod Mr. Jones yn ddyn gwanaidd ei iechyd, ac yn beryglus iddo fyned ar ei draed trwy y dwfr, gorchymynodd iddo aros fel y gallai ef ei gario trosodd. Felly, yn lle ei ladd, fel y bygythiai, bu y tro hwn yn well na'i air—cariodd ef dros yr afon. Yr oedd Dr. Pugh yn daid i'r diweddar Barch. H. Pugh, Mostyn, ac fel yr hysbyswyd eisioes, yn haner brawd i William Hugh, y Llechwedd, y pregethwr cyntaf gyda'r Methodistiaid yn y wlad hon. Oherwydd ei fod yn wr poblogaidd gyda rhyw ddosbarth o bobl, ac yn fwy gwybodus na'r cyffredin, gwnaeth lawer o'i gymydogion yn erlidgar fel efe ei hun. Darluniai y pregethwyr fel y cymeriadau isaf mewn bod. "Huwcyn bach," ebai wrth Hugh Rowland, ei gymydog, "nid ydynt yn ddim byd ond yr hyn a ragfynegodd ein Hiachawdwr (dyna ei air) am danynt, 'gau-athrawon,' 'ser gwibiog,' 'y rhai sydd yn ymlusgo i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau,' y rhai sydd yn llwyr-fwyta tai gwragedd gweddwon, a hyny yn rhith hir weddïo.'" Hen erlidiwr arall o'r enw Edward Wood a ddywedai, "Mae y pregethwyr yn rhy ddiog i weithio, ac yn rhy wan-galon i sefyll ar ben y ffordd fawr." Wedi marw yr yswain a'r meddyg yr oedd yr erlid cyhoeddus