Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/213

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi tori asgwrn ei gefn. Eto, byddai oferwyr a segurwyr, a rhai Eglwyswyr zelog, yn ymgasglu yn fintai o amgylch porth y fynwent, i ddisgwyl y Methodistiaid allan o'r moddion (gerllaw porth y fynwent yr oedd y tŷ lle yr ymgynullent i addoli). er mwyn cael y cyfle i'w gwawdio a'u gwatwar. Parhaodd hyn hyd oni orchfygwyd yr ardal gan grefydd, yn y Diwygiad yn 1818 ac 1819.

Y ddiweddar Mrs. J. Jones, Upper House, Machynlleth, yr hon oedd yn ferch i'r hybarch Mr. Foulkes, a'r hon oedd wedi cyraedd gwth o oedran pan fu farw, ddechreu y flwyddyn hon, a adroddai ychydig amser yn ol iddi glywed ei mam laweroedd o weithiau yn adrodd yr hanesyn canlynol. Yr oedd Mr. Foulkes yn bregethwr cymeradwy gyda'r Methodistiaid, ac yn cadw siop o gryn faintioli yn Machynlleth. Ryw ddiwrnod, tra yr oedd Mrs. Foulkes yn y siop, daeth agent Mr. Edwards, Talgarth Hall, Pennal, boneddwr oedd yn berchen y rhan fwyaf o'r wlad o gwmpas ei balas, i mewn a dywedai, "Mae Mr. Edwards yn rhoddi gorchymyn nad ydyw Mr. Foulkes. ddim i ddyfod i Bennal i bregethu eto." Wel, dear me," ebe Mrs. Foulkes, "the gospel must be preached mae yn rhaid i'r efengyl gael ei phregethu," "Wn i beth am hyny," ebe yr agent, "mae fy meistr yn dweyd nad ydyw Mr. Foulkes ddim i ddyfod i Bennal i bregethu eto." "Wel, wel," atebai Mrs. Foulkes drachefn, "mae yn rhaid i ni gael y tai wedi eu recordio i bregethu ynddynt." "Wn i beth am hyny," ebe yr agent drachefn, "mae fy meistr yn dweyd nad ydyw Mr. Foulkes ddim i ddyfod i Bennal i bregethu mwyach." Ysgrifenodd fy mam dranoeth i'r Bala at Mr. Charles," ebe Mrs. Jones, "i adrodd yr hanes, ac fe fu hyny yn ddechreuad yr ymgais a wnaed i drwyddedu y pregethwyr, ac i recordio y tai." Mae yr hanes hwn yn bur sicr o fod yn gywir, ac fe welir oddiwrth yr helyntion oedd yn y wlad y pryd hwnw i hyn gymeryd lle yn 1795, neu y flwyddyn cynt, ac y mae yn cytuno â'r amser yr oedd Mr. Foulkes yn byw yn Machyn-