Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/214

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lleth. Mae yn cadarnhau hefyd ffaith arall a gofnodir yn Methodistiaeth Cymru, sef ddarfod i arswyd feddianu y Methodistiaid yn yr holl siroedd, oherwydd aethai y si allan fod yn mwriad boneddigion eraill heblaw Mr. Corbett i gosbi y pregethwyr am na feddent drwydded i bregethu, na hawl i bregethu mewn tai heb eu trwyddedu. Mae hyn felly yn sicrwydd fod pregethu yn Mhennal yn 1795.

Yr un y ceir ei enw gyntaf ynglyn â chrefydd gyda'r Methodistiaid yn yr ardal ydoedd Sion Morris, gwehydd, ac efe fu yn blaenori gyda'r achos am yr ugain neu y pum' mlynedd ar hugain cyntaf. Y ddau agosaf ato oeddynt, Sion Evan, Tywyllnodwydd, ac Arthur Evan, y crydd. Pan oedd yr yswain a'r meddyg yn erlid yn y flwyddyn 1808, gellir tybio fod cryn nifer o bobl yn gwrando ar y pryd, a bod crefydd wedi enill tipyn o nerth yn yr ardal, gan iddynt allu gorchfygu squire y gymydogaeth a'r meddyg. Heblaw hyny, daeth Sion Evan i fyw i Tywyllnodwydd yn 1805, ac yr oedd ef wedi bod ar y blaen gyda chrefydd am 20 mlynedd yn flaenorol, yn ardal Llanwrin, o'r lle y symudodd i Dywyllnodwydd. Efe ddaeth a phregethu gyntaf i ardal Llanwrin, ac yr ydoedd wedi dangos gwroldeb mawr yn yr hyn a wnaethai gyda chrefydd yno. Nid yw yn debyg y buasai gŵr o'i fath ef yn oedi dim heb sefydlu cymdeithas eglwysig yn Mhennal. Gall fod yr eglwys wedi ei ffurfio rai blynyddau cyn hyn, ond dyma y lle pellaf yn ol y gellir ei holrain, sef oddeutu 1805. Cynhelid y gwasanaeth crefyddol am 15 mlynedd wedi hyn mewn tŷ bychan yn nghanol y pentref, o dan yr un tô â'r Post Office presenol. Addolai yr Annibynwyr mewn tŷ yr ochr arall i'r ffordd, ac yr oedd y ddau dŷ o fewn ychydig latheni i'w gilydd. Mae y rhybudd canlynol a roddwyd i'r perchenog, wedi ei arwyddo gan Arthur Evan, y blaenor, yn dangos yr amser y symudwyd o'r tŷ i fyned i addoli i'r capel:—


To Captain Thurston.

"At the expiration of my present year's holding, I shall