Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/215

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

quit and deliver up to you the possession of that house or tenement, now used as a chapel, situate in the village of Pennal, in the County of Merioneth, which I now hold under you. As witness my hand this 22nd day of September, 1820. —A.E."

Cafwyd tir i adeiladu capel yn nghwr y pentref, lle saif yr hen gapel presenol, ar brydles o gan' mlynedd ond un, gan Mr. John Jones, masnachwr, Machynlleth, am ardreth flynyddol o ddeg swllt ar hugain. Dyddiad y brydles ydyw 1820. Yr oedd yr Annibynwyr wedi adeiladu eu capel bedair blynedd yn flaenorol. Adeiladydd y capel oedd Edward Rees, Caerllan bach. Cedwid y cyfrifon gan Lewis William, Llanfachreth, yr hwn oedd yma yn cadw ysgol, ac mae yr oll sydd ar gael o'r cyfrifon ar ychydig ddalenau, ymysg ei bapyrau ef. Y draul, hyd y gellir gweled, oedd 99p. 19s. Derbyniai ef y rhan fwyaf o'r swm hwn gan Richard Humphreys a Capt. Griffith, Abermaw, dros y Cyfarfod Misol. Ni buasid byth yn gwybod yr un iot ynghylch adeiladu y capel cyntaf hwn, ond fel y daethpwyd yn ddamweiniol o hyd i bapyrau yr hen ysgolfeistr ffyddlon. Yr oedd yr achos yn Mhennal yn wan, a'r eglwys yn analluog i gasglu ond ychydig yr adeg yma, a thros ryw ysbaid o amser wedi hyn, fel y dengys y llythyr canlynol a ysgrifenodd Lewis William, Llanfachreth, at Gyfarfod Misol y Bala:—

Dolgellau, Rhagfyr 27ain, 1823.

"Fy Anwyl Frodyr a Thadau, sydd yn gynulledig yn Nghymdeithasfa Fisol Sir Feirionydd, yn y Bala—Mae cyfeillion Pennal wedi erfyn arnaf ofyn a gaiff Josuah Bywater, o'r Barmouth, y capel i gadw ysgol. Maent hwy yn foddlon, os caiff ganiatad gan y Cyfarfod Misol.

"Yn mhellach, y maent yn gofyn yn ostyngedig a gânt eu cynorthwyo i dalu y llog sydd ar y capel, oherwydd y maent hwy wedi gwneyd yn ffyddlon, yn ol eu gallu, y flwyddyn ddiweddaf, ac er hyny y mae dros bunt o'r llog heb ei dalu, ac