Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/217

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hun, er y flwyddyn 1856. Nifer y cymunwyr y flwyddyn hono yn Mhennal oedd 73, a'r nifer yn Aberdyfi, 100. Blaenoriaid cyntaf yr eglwys oeddynt, Sion Morris, Sion Evan, Tywyllnodwydd, a Dafydd Evan, ei fab, Arthur Evan, y crydd, Lewis Jones, Ynys; Morgan William, Cyllellog; ac mewn amser diweddarach, Robert Evans, Ynys; John Jones, Esgirgoch; Morgan Jones, Esgirweddan; a Hugh Jones, Gelligraian.

Sion Morris, gwehydd, y blaenor cyntaf. Dyn bychan o gorff, crwn, heini ar ei droed. Byddent yn ei golli o'r pentref am ddyddiau weithiau, heb wybod i ba le yr oedd wedi myned, ond dywedai y bobl wrth eu gilydd ei fod wedi myned i Gyfarfod Misol, neu Sasiwn, i rywle, i chwilio am bregethwyr. Ceir ei enw ef a Gwen Morris, ei wraig, yn cyfranu at yr ysgol gylchynol yn bur foreu. Preswyllai mewn tŷ bychan, tlawd, y tlotaf yn y pentre, sef y tŷ a'r corn hir, a safai lle y mae y Graiandy yn awr, ac a dynwyd i lawr wrth adeiladu capel presenol y Methodistiaid. Bu Mr. Charles, o'r Bala, yn cysgu unwaith yn ei dŷ. Wedi iddo fyned i'r gwely, gofynai Sion Morris iddo, "Oes genych chwi ddigon o dan eich pen, Mr. Charles?" Os nad oedd ganddo ddigon, yr oedd yr hen flaenor yn barod i dynu dilledyn oddiam dano ei hun, er mwyn codi pen Mr. Charles yn uwch i fyny.

Sion Evan, Tywyllnodwydd.—Gŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, egwyddorol yn yr Hyfforddwr, ac yn dra awyddus am i bawb ddyfod yn grefyddwyr. Bu iddo fawr ofal calon am achos crefydd yn Llanwrin, cyn dyfod i lawr yma. Dywedir na ddeuai neb i'w dŷ, ac na chyfarfyddai â neb ar y ffordd, na soniai wrthynt am grefydd, a hyny nid mewn rhagrith, ond o wir ofal am danynt. Gair a ddywedodd ef wrth fugeilio defaid ar y mynydd a ddaliodd gyntaf ar feddwl David Jones, wedi hyny o Nantymynach, gŵr a fu yn flaenor gweithgar yn Abertrinant. Rhoddodd gyngor i Mr. David Rowland, Llwynteg, pan yr oedd yn llanc ieuanc yn ei dŷ yn gweithio, a barodd