Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/219

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i barhau. Yma y neillduwyd Mr. Richard Owen, Machynlleth, yn flaenor, mewn oedran tra ieuanc. Bu Richard Owen ei dad hefyd yn ffyddlon (iawn gydag achos crefydd hyd ddiwedd ei oes. Dau o ffyddloniaid eraill, ond heb fod yn flaenoriaid, oeddynt, Edward Rees, saermaen, a Peter Jones. Bu Edward. Rees yn godwr canu am lawer o flynyddoedd. Canai â'i law ar ochr ei ben, nes tynu yr holl gynulleidfa i hwyl canu yn null yr hen bobl. Mab oedd ef i hen glochydd y plwyf, a rhoddai yn fynych y geiriau canlynol allan i'w canu yn y cyfarfodydd gweddi, a chanwyd llawer arnynt yn nghapel Pennal:—

"Gogoniant i'r Tad
Yn rhwyddair a'r Mab rhad,
A'r Ysbryd Glân pur;
Rho'wn iddo bob mawrhad,
Tragwyddol fythol Fod;
Clod, clod
Dilyth fawr a bendith,
Fyth, fyth iddo'n bod.

Peter Jones a Sian William, ei wraig, oeddynt golofnau mewn zel a ffyddlondeb. Bu gorfoledd mawr un tro yn eu tŷ, yn amser Diwygiad Beddgelert, a chan fod y tân ar lawr, yr oedd gwreichion o'r tân naturiol wedi eu lluchio ar hyd y tŷ, oherwydd fod y gorfoleddwyr yn neidio mor afreolus, hyd nes y dygwyd y tŷ a'r preswylwyr i ymylon dinystr. Mawr oedd gofal Sian William gyda y merched a'r gwragedd, ar ol i'r gorfoledd fyned heibio, yn rhoddi eu hetiau a'u gwisgoedd yn eu lle, &c. Cymerai y chwaer hon lawer o drafferth i wneyd y pregethwyr yn gysurus; pan y tröent i'w thŷ ar ol dyfod o Maethlon y Sabbath, ni chaent fyned i'r capel at yr hwyr heb iddi dynu pob ysmotyn o lwch a baw oddiar eu hesgidiau. Byddai hi a'i phriod ar ben drws y tŷ y noson y byddai y blaenoriaid yn gwneyd cyfrifon y capel ar ddiwedd y flwyddyn, yn disgwyl clywed am lwyddiant yr achos, gan fawr obeithio eu bod wedi cael y ddau pen i'r llinyn ynghyd. Nid oedd Peter Jones ond byr ei wybodaeth, a byddai Hugh Evan yn ei