PENOD II
——————
ANSAWDD FOESOL A CHREFYDDOL Y WLAD CYN Y FL. 1785.
——————
CYNWYSIAD—Cyfnewidiadau can' mlynedd—Y ddau wr a ddeffrowyd gyntaf—Profion allanol a thufewnol—Arferion y gwahanol ardaloedd Gwyl Mabsantan—Troedigaeth John Vanghan, Tonfanau Interludiau—Dr. Pugh, Pennal—Ymladd Ceiliogod—Tystiolaeth y Ficar Pritchard—Llyfr y Chwareuon"—Siol Gladdu.
MAE y flwyddyn 1785 yn flwyddyn arbenig yn hanes
y rhan yma o'r wlad, yn gystal a phob rhan arall,
am mai hi ydyw blwyddyn dechreuad yr Ysgol
Sabbothol yn Nghymru. Mewn cysylltiad â chrefydd Cymru,
bydd y flwyddyn hon yn llythyren goch yn ei hanes ymhlith
holl flynyddau yr oesoedd. Yr ydys yn ei chymeryd hi yn y
benod hon fel y terfyn-gylch sydd yn gwahanu rhwng tywyllwch
a goleuni: y goleuni i gyd y tu yma i'r terfyn-gylch, a'r
tywyllwch y tu draw iddo. Y ffordd i werthfawrogi goleuni y dydd ydyw, ei ddal ar gyfer a'i gymharu â thywyllwch
y nos sydd newydd fyned heibio. Felly, mewn trefn i weled
y daioni a wnaeth crefydd i'n gwlad, mae yn angenrheidiol i
ni gofio am y tywyllwch, a'r anwybodaeth, a'r annhrefn mawr
oedd ynddi, a hyny mor ddiweddar a chan' mlynedd yn ol. I
lawer o bobl, nid ydyw prydferthion y greadigaeth, a golygfeydd swynol natur yn meddu ond ychydig at-dyniad, ac nid
ydyw hynafiaethau, ychwaith, yn meddu unrhyw swyn iddynt
amgen na bod yr haul a'r lleuad wedi cyfodi a machludo yn eu
tro, a bod trigolion y wlad wedi eu geni, wedi byw, ac wedi
marw, a dyna ddarfod am danynt. Ond a chaniatau mai
ychydig ydyw nifer y rhai a fedrant gymeryd dyddordeb
mewn pethau fel hyn, y mae y lliaws yn gwybod gwahaniaeth