Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/220

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorectio yn y seiat wrth ddweyd ei brofiad, "Sut yr wyt ti yn dweyd, Peter ?" "D'wad di yn well, Huwcyn, os medri di," atebai y llall.

Un arall o rai rhagorol y ddaear a ddiweddodd ei oes yn aelod o'r eglwys hon oedd Thomas Roberts, yr hwn a adnabyddid fel hen ddriver John Elias, o Fôn. Bu yn was yn Fronheulog, Llandderfel, am 52 mlynedd. Rhoddai Mr. Davies, Fronheulog, ei gerbyd i John Elias i deithio siroedd De a Gogledd Cymru, a Thomas Roberts fyddai yn drivio y cerbyd. Pan y cyfarfyddodd Mr. Elias a'r ddamwain foreu Sasiwn y Bala, ar ei ffordd o'r Fronheulog, yr oedd yr hen frawd yno y pryd hwnw, ond arferai ymorchestu tipyn mai nid efe oedd yn gyru y cerbyd ar y pryd; yr oedd wedi myned o flaen y cerbyd i'r Bala, i drefnu y wageni ar y Green. Ond efe fu yn gwasanaethu am wythnosau ar Mr. Elias ar ol y ddamwain, ac efe fu yn ei anfon adref wedi iddo wella. Pan y deuai Mr. Elias i'r Fronheulog wedi hyn, arferai anfon o'i flaen, "Anfonwch Tomos i'm cyfarfod, gyda cheffyl llonydd." Ymffrostiai Thomas Roberts yn ei swydd o ganlyn John Elias, a chredai nad oedd neb tebyg iddo yn y byd. "Mi glywais," meddai, "Dr. Chalmers, a dynion mawr eraill, ond John Elias oedd y pregethwr mwyaf glywais i erioed." Ni bu dim ond dau, yn ol ei syniad ef, yn y byd erioed yn fwy nag ef; Iesu Grist yn gyntaf; yr Apostol Paul yn ail, a John Elias yn drydydd. Pan yr oedd yn glaf yn ei wely o'r clefyd y bu farw o hono, gofynwyd iddo, " Pwy hoffai weled gyntaf wedi myned i'r nefoedd ?" "Mr. Elias," atebai, dan godi ei ddwylaw i fyny, "'rwyf yn meddwl y byddwn yn fwy hyf arno ef nag ar yr Arglwydd Iesu." Bu farw Ionawr 19eg, 1879, yn 89 oed.

Yn yr ardal hon y diweddodd y Parch. Richard Humphreys, o'r Dyffryn, ei oes. Daeth yma yn Mehefin, 1858, trwy ymbriodi â Mrs. Evans, Gwern Iago, a bu farw Chwefror 15fed, 1863. Parhaodd yn ei wres, a'i gariad, a'i bwyll, a'i ofal am yr achos goreu hyd y diwedd, ac y mae llawer o'i ddywediadau