Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/224

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hanesyn hwn, ymhen llawn deugain mlynedd wedi iddo gymeryd lle.

Ar ol ysgrifenu yr uchod, daethpwyd o hyd i'w gofiant yn y Drysorfa, Rhagfyr 1855, gan John Rees, Tregarn. Cytuna y Cofiant â'r sylwadau hyn, ond dywedir yn ychwanegol iddo "symud o Maethlon, yn y flwyddyn 1806, i'r Garnedd—fawr, fferm yn agos i Dregaron, hen drigle Sion Dafydd Daniel, hen bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; a Thregaron a'r cymydogaethau cylchynol a gawsant fwynhau ei lafur defnyddiol o hyny hyd ddiwedd ei oes hirfaith. Bu farw Mai 13, 1849, yn 91 mlwydd oed." Dywedir hefyd i ddirwy gael ei gosod arno gan y boneddwr o Ynysmaengwyn, am iddo fyned i wrando pregeth mewn tŷ anedd, a "gorfu i Daniel Jones, ynghyda dau eraill, dalu y ddirwy."

Bu Evan Jones, y brawd arall, yn cadw ysgol ddyddiol am ysbaid yn Aberdyfi. Treuliodd weddill ei oes yn ardaloedd y Bwlch a Llanegryn. Evan Jones oedd enw mab iddo yntau, yr hwn a ddygwyd i fyny yn grydd, a bu yn gweithio ei grefft am dymor yn Arthog. Ymhen amser rhoddodd y gwaith crydd heibio, ac aeth yntau i gadw ysgol. Bu am flwyddyn neu ddwy yn cadw ysgol yn Mlaenau Ffestiniog. Gydag ef, rhyfedd sôn yn hen gapel Bethesda, y cafodd ysgrifenydd yr hanes hwn y chwarter o ysgol cyntaf erioed! Y cymwysder penaf ynddo fel ysgolfeistr yn nghyfrif y rhai fu a llaw yn ei argymell i'r brodyr yn Ffestiniog oedd, ei fod yn ddyn crefyddol, ac ar y cymwysder hwnw y rhoddai y brodyr yno y pwys mwyaf. A'r côf penaf sydd gan ei ysgolheigion am dano fel ysgolfeistr ydyw, tôn grefyddol ei lais, a'i gydwybodolrwydd i ddefnyddio y wialen pan fyddai y plant yn blant drwg. Llanwodd ddisgwyliadau ei gefnogwyr a'i gyflogwyr yn llawn, trwy droi allan yn ysgolfeistr crefyddol, ac yn yr ystyr hwn gadawodd argraff dda ar y plant fu dan ei ofal. Cafodd yr hen ysgolfeistr gonest fuddugoliaeth ardderchog ar angau. Bu farw yn Arthog, oddeutu ugain mlynedd yn ol. Ychydig