Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/225

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fynydau cyn marw, slipiodd dros erchwyn ei wely, ac aeth ar ei liniau, ac yna i'w wely yn ol, a chan godi ei fraich i fyny a'i throi o gwmpas ei ben dywedai, "Ai dyma ydyw marw! dyma ydi o! A oes dim mwy mewn marw na hyn!' A chyda iddo ddweyd y geiriau ymadawodd â'r byd trallodus hwn i'r gwynfyd. Huna gyda'i dadau yn y gladdfa sydd yn nghanol tref Towyn.

Ar ol i'r noddfa yn Nyffryn-gwyn gael ei chwalu, ac i'r cewri oedd yno yn byw symud o'r ardal, bu moddion gras a'r Ysgol Sabbothol yn erwydro o dŷ i dŷ, heb gartref arhosol yn un man am lawer o flynyddoedd, ac mae yn bur sicr i'r achos yn Maethlon weled llawer tro ar fyd, a llawer tymor o i fyny ac i lawr, am yr ysbaid maith o ddeng mlynedd a thriugain. Wedi ymadawiad y ddau Jones o Ddyffryn-gwyn, bu yr eglwys yn hir heb flaenor; nid oedd neb yn yr ardal yn y tymor cyn adeiladu y capel a allai gymeryd y blaen gyda chrefydd. Ysgrifena y Parch. Hugh Jones, Towyn, yn hanes ei fywyd:— "Wedi hyny (sef wedi 1802) dechreuais gadw Ysgol Sul ar hyd y tai cymydogaethol, sef Pant yr Owen, Alltlwyd, Minffordd, Dyffryn-gwyn, a Thŷ'nypwll. Y pryd hwnw, nid oedd cymaint ag un crefyddwr o lân y môr i Fwlch Towyn." Tebyg yw fod yr hen ŵr, Hugh Jones, yn methu yn y dyddiad; nid oedd Daniel Jones wedi ymadael y pryd hwn. Mae rhai o'r tai y buwyd yn cadw moddion ynddynt bellach, er's llawer blwyddyn wedi eu tynu i lawr i'w sylfeini. Digwyddodd pethau rhyfedd a dyddorol yn y tai hyn. Mewn tŷ bychan yn ymyl Felin Llynpair—nid oes prin olion y tŷ hwn i'w weled yn awr yr oedd Ysgol Sul yn cael ei chadw, a byddai rhai o Dowyn a manau eraill yn dyfod yno i arwain yr ysgol. Un Sabbath, nid oedd neb wedi dyfod o'r lleoedd hyn, ac nid oedd yno neb a allai gario yr ysgol ymlaen. Gan ei bod hi felly, gofynodd rhywun a oedd yno neb wnai ganu, ac fe ddaeth rhywun ymlaen ganu. Gofynodd rhywun drachefn a oedd yno neb wnai ddawnsio, ac fe ddaeth rhyw ferch ymlaen i