Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddawnsio. A dyna fu yno y prydnhawn Sabbath hwnw yn lle ysgol, canu a dawnsio. Cymerodd hyn le oddeutu y flwyddyn 1808, pan yr oedd y diweddar Mr. Owen Williams, Aberdyfi, yn wyth oed, yr hwn oedd yn bresenol ei hun, a chanddo ef y cawsom yr hanes.

Hynod iawn y gofal a fu i gael ysgol ddyddiol i'r ardal, a hyny mewn adeg bur foreuol. Y mae rhai yn awr yn fyw sydd yn cofio tri neu bedwar o ysgol-feistriaid wedi bod yn cadw ysgol cyn y flwyddyn 1820 yn Tŷ'nypwll, lle a adwaenir yn yr oes hon fel beudy Erwfaethlon. Bu Lewis Williams, Llanfachreth, yno yn cadw ysgol amryw weithiau. Gwneid ymdrech i gael ysgol.gan benau-teuluoedd yr ardal, a charedigion o'r tuallan. Mae y dyfyniad canlynol i'w gael mewn llythyr oddiwrth John Jones, Penyparc, ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion, at gyfarfod chwechwythnosol Llwyngwril, a gynhelid Ebrill, 1819:—"Yr ydys yn gobeithio y bydd i'r cyfarfod gofio am ei chwaer fechan sydd megis heb fronau iddi, sef ysgol y Dyffryngwyn, a'i chynorthwyo fel cylch i ddanfon yr athraw yno, am ryw faint o amser a farnoch yn addas. Nid oes yno yn bresenol yr un ysgol wythnosol, na neb y Sabbothau, ond a gaffont ar haelioni eraill. Mi a fum yno y Sabbath diweddaf, ac yr oeddwn yn gorfod tosturio wrth eu eri a'u tlodi yn ngwyneb eu parodrwydd a'u haddfedrwydd i dderbyn addysg. Maent wedi cael cynygiadau am athrawon wythnosol o fanau eraill, ond ni wnant ddim penderfyniad gyda neb hyd nes y clywont oddiwrthym ni, oherwydd fod eu llygaid arnom yn fwy na neb arall. Hwy a roddant bob cynorthwy ar a allont, mae yn debyg, at yr ysgol, ac felly mae eu hachos yn galw am ein hystyriaeth mwyaf difrifol ar frys. Un o ddibenion penaf sefydliad yr ysgol ydoedd cynorthwyo manau gweiniaid, a hyn hefyd (ond cael golwg efengylaidd arni) yw ei gogoniant penaf. O! am gael ein bedyddio âg ysbryd apostol mawr y cenhedloedd! Nid ydym i geisio yr eiddom ein hunain, ond lleshad llaweroedd." Mae yr hyn a