Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/227

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganlyn hefyd wedi ei gofnodi gan Lewis Williams, Llanfachreth "Tachwedd 9fed, 1819, cynhaliwyd cyfarfod athrawon y daith Sabbath yn Aberdyfi. Ymhlith pethau eraill, penderfynwyd yn y cyfarfod ar gynyg ar gael athraw i gadw ysgol am y flwyddyn nesaf, rhwng Dovey a Thŷ'nypwll, os gellid cael modd i'w gynal. Ac ar yr amser hyn, fe amododd Mr. John Ellis, Evan David, John Richard, John Williams, Lewis Jones, os na byddai yn faich trwm iawn, i fod yn gynorthwyol i'r gwaith, fel y byddai yr achos yn gofyn; a hwy a roisant amodau y tro hwn o'r hyn a roddent yn chwarterol am y flwyddyn, ac os byddai eisiau yr ychwanegent. Penderfynwyd y pris a fyddai ar ol y plant—3c. am rai yn dechreu; 4c. am rai yn ysgrifenu; 5c. am rai mewn rhifyddiaeth, yn chwarterol. Penderfynwyd y cai y neb a fynai ddyfod i mewn i roddi eu henwau yr un ffordd a'r enwau uchod, i fod yn olygwyr ar yr achos, ac i fod yn enillwyr neu yn golledwyr arno, a hyny yn ol eu hamodau. Deisyfwyd ar i L. W. osod rheol pa fodd i fyned a'r gwaith ymlaen." Yna, ceir amryw reolau wedi eu tynu allan gan L. W., megis, Fod pawb a roddent eu henwau i lawr i fod yn ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i ofalu am gyflog yr athraw; fod cyfarfod ddwy. waith yn y chwarter gan yr ymddiriedolwyr i ystyried achos yr ysgol; fod yr athraw i gadw cyfrif manwl o'r ysgolheigion, a'u graddau mewn dysg, i'w roddi i'r ysgrifenydd; fod y trysorydd i dalu yn chwarterol i'r athraw. Ceir hefyd y swm a roddid ar bob teulu yn ol rhifedi y plant. Ysgrifena J. J., Penyparc, at L. W., Mawrth 25ain, 1823—"Yr ydwyf yn gobeithio na ddarfu i chwi ddim gorphen penderfynu i beidio dyfod i gapel Maethlon. Fe fydd i Hugh Jones fyned oddiamgylch yr ardal ymhen wythnos, i gasglu at y Beiblau; fe fydd iddo ef fynu gwybod ansawdd yr achos yn fanylch. Mawr yw ein hawydd ni i chwi ddyfod yno er mwyn yr achos. Ond nid oes dim eisiau mwy i chwi ryfygu, na'r rhai sydd yn eich peryglu felly, na'ch tynu i un math o brofedigaeth. Os na