Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddarfu i chwi hollol benderfynu gyda hwy, gadewch y peth yn agored am wythnos neu naw diwrnod, fel y gweler yr eithaf o hono. Mae rhai yn meddwl y gellwch gael pethau angenrheidiol natur yno—Os bydd genym ymborth a dillad, ymfodd lonwn ar hyny'—ac yn golygu mai gwell ydyw peidio gwasgu yn rhy dyn ar yr ardal am chwanegiad y gwyddoch am dano, ac felly y gwnai dynion a dynoliaeth hardd yn well na'u haddewidion. . . . . Ond os ydych chwi wedi penderfynu dyfod, y mae'n cert ni yn dyfod i'r dref (Dolgellau), ac fe ellir dyfod a rhyw ychydig o bethau ynddi i chwi yma. Gadewch i mi gael clywed gair oddiwrthych gydag Humphrey, y Genad. —Ydwyf, yr eiddoch yn ddiffuant, Jno. Jones." Cyfeirir yma at "bethau angenrheidiol natur," ac at y gert i gludo celfi yr ysgolfeistr. Y mae Lewis Vaughan, Aberdyfi, yn cofio L. W. yn symud i Bryndinas, yn ardal Maethlon, a'i lyfrau a'i holl ddodrefn yn dyfod gydag ef mewn car llysg. Fel hyn y treuliodd 24 mlynedd o amser, yn symudol o le i le, a'i feddianau oll yn cael eu symud gydag ef. Byddai yn fynych yn cael ei ymborth yn rhad yn y tai yr arosai. Bu Hugh Angel hefyd yn cadw ysgol yn nghapel Maethlon, ac yn cael ei fwyd bob yn ail tri mis yn Erwfaethlon, Bryndinas, Dyffryn-gwyn, a Gwyddgwian. Mae y pethau hyn yn ddyddorol oblegid eu hynafiaeth, ac hefyd am eu bod yn dangos y modd yr oedd addysg a chrefydd yn cael eu cario ymlaen yn yr ardaloedd hyn y pryd hwnw.

Yr enw wrth ba un yr adnabyddid yr ardal mewn cylch crefyddol cyn adeiladu y capel oedd Tŷ'nypwll, am mai yn y tŷ o'r enw hwnw y buwyd yn cynal moddion crefyddol, ac ysgol ddyddiol a Sabbothol hwyaf. Ac yr ydoedd yn daith Sabbath am lawer o amser gydag Aberdyfi a Phennal. Yn y fl. 1821 yr adeiladwyd y capel cyntaf. Cafwyd lle i adeiladu ar dir Erwfaethlon ar brydles o 99 mlynedd, am ardreth o ddau swllt. Nid oes ond ychydig o hanes y cyfnod hwn ar gael. Yr adeg yma, nid. oedd ond un penteulu yn proffesu crefydd yn yr holl