Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/229

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwm. Aeth y Parch. Hugh Jones, Towyn, a John Roberts, Dyffrynglyngil, o amgylch yr ardal i gasglu at y capel. Bu tipyn o ddadl, pa un ai capel Dyffryn ai capel Maethlon fyddai ei enw. A'r hyn a drodd y fantol i'w alw yn gapel Maethlon oedd, am mai ar dir Erwfaethlon yr adeiladwyd ef. Ac o hyny allan cafodd yr ardal ei henw oddiwrth enw y capel. Buwyd lawer adeg wedi myned i'r capel mewn cryn helynt i ddwyn yr achos ymlaen, oherwydd prinder proffeswyr i gynal moddion. Un tro, John Vaughan, Bryndinas, oedd yno į weddïo y cwbl. Dywedai y codwr canu wrtho, "Lediwch chwi benill mor amal ag y mynoch chwi, mi gana i." Felly y gwneid, darllenai yr un un benod, a gweddïai ar ol canu pob penill. Dywed un arall ei fod yn cofio mai gwraig Llanerchilin, a John ei mab, fyddai yr unig ddau i arfer moddion yn gyhoeddus; dechreuai un a diweddai y llall. Daeth y teulu hwn i fyw i Lanerchllin o Talybont, Llanegryn, ryw bryd wedi 1821. Bu y gwr, Vincent Jones, am flynyddau lawer heb broffesu, ond daeth yn broffeswr cyn diwedd ei oes. Yr oedd y wraig, fel y gwelwyd ei hanes mewn cysylltiad â'r achos yn Llanegryn, yn un hynod am ei chrefydd. Y hi am dymor a gymerai y rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddïau yn gyson yn Maethlon. Yr amser hwn arferai yr eglwys fyned i Aberdyfi i'r cymundeb.

Nid ydyw yn degwch i basio heibio heb gofthau am lafur y Parch. Hugh Jones, Towyn, yn Maethlon. Efe fu a'r llaw benaf mewn adeiladu y capel cyntaf. Efe ddechreuodd gadw seiat yno yr adeg yma, oblegid yr oedd wedi myned i lawr er pan y dechreuwyd hi gyntaf, a bu ef yn dyfod i'w chadw am flynyddoedd bob tair wythnos neu fis. Efe hefyd fyddai yn disgyblu, ac yn derbyn at yr ordinhad. Derbyniodd un tro 16 gyda'u gilydd. Sicrheir y buasai yr ardal wedi ei cholli i'r Methodistiaid y pryd hwn oni bai am ffyddlondeb di-ail Hugh Jones. Byddai rhyw gais ganddo ef beunydd at y Cyfarfod Misol o berthynas i'r achos bychan yn Maethlon.