Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhwng drwg a da, rhwng annhrefn a threfn, rhwng gwlad anwaraidd a gwlad wedi ei gwareiddio, rhwng gwlad heb neb ynddi yn ofni Duw a gwlad wedi ei llenwi â chrefyddwyr. Gwnaeth dylanwad pregethu yr efengyl a sefydliad yr Ysgol Sabbothol y gwahaniaeth hwn mor amlwg fel y gall y byraf ei ddeall ei ganfod. Ac mewn mor lleied o amser y gwnaed y fath wahaniaeth! Rhyfedd y cyfnewidiadau a ddygwyd o amgylch yn arferion ac agwedd foesol y trigolion mewn can' mlynedd Gan' mlynedd yn ol, yr un oedd terfynau ac amgylchoedd daearyddol y wlad yn hollol ag ydynt yn awr. Pe buasai i un o'r hen frodorion gyfodi o'r bedd, a sefyll ar ben un o fryniau y fro eleni, gallasai adnabod y wlad oll fel yr adnabyddid hi y pryd hwnw. A phe na buasai yn sylwi ar ddim ond y golygfeydd allanol, diau mai ei leferydd fuasent, "Y mae pob peth yn aros yr un fath er pan hunodd y tadau; mae nefoedd a daear yr un fath; mae yr haul y dydd, a'r lloer a'r sêr y nos yn hollol fel yr oeddynt gynt; mae yr afonydd sydd yn rhedeg i'r môr yr un fath; y bryniau llyfnion a'u penau moelion yr un fath; y banciau a'r dolydd, y coedwigoedd a'r meusydd yr ochrau a'r llechweddau yn aros yr un fath a phan yr oeddwn i a'm cyfoedion yn fyw ar y ddaear." Ond y mae can' mlynedd o amser wedi dwyn cyfnewidiadau mawrion i mewn, yn arferion y trigolion, ac yn agwedd foesol a chrefyddol y wlad. Arferion ofer y byd, a gwasanaeth difudd yr un drwg oedd yn myn'd a sylw tlawd a chyfoethog, gwreng a bonheddig; treulio y Sabbothau mewn ofer-gampau, chwareu cardiau, interludiau, y bel droed, rhedegfeydd, ac ymladdfeydd-dyma y pethau oedd mewn bri hyd ddiwedd y ganrif ddiweddaf yn yr ardaloedd hyn, ac nid oeddynt yn ol ynddynt i unrhyw ran o. Gymru.

Yn y flwyddyn 1749 y ganwyd William Hugh, Llechwedd, yn agos i bentref Llanfihangel-y-Penant. Pan ydoedd yn llanc yn bugeilio defaid ei dad ar hyd llechweddau Cader Idris, meddianid ei feddwl ag ystyriaeth am fawredd y Creawdwr,