Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/230

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aeth yr achos yma fel hyn yn ei flaen, o dòn i dòn, rhwng byw a marw, hyd amser Diwygiad 1859-1860, pryd y derbyniodd adgyfnerthiad mawr. Mae yn briodol sylwi hefyd mai i Maethlon y daeth y diwygiad hwnw gyntaf o un man i Ogledd Cymru. Ychydig cyn hyn yr oedd y lle yn anarferol o galed a digrefydd; yr oedd set o wasanaethyddion wedi dyfod i'r ardal, anystyriol a thu hwnt i'r cyffredin o annuwiol. Gymaint oedd yr anystyriaeth a'r aflywodraeth fel yr ofnai yr ychydig grefyddwyr oedd yn aros fod yr Arglwydd yn anfon ei farnau ar y wlad. Yr amser hwn hefyd nid oedd yr eglwys ond wyth mewn nifer. Dechreuodd y Diwygiad, modd bynag, mewn ffordd yn ddiarwybod i'r bobl eu hunain. Yr oedd Thomas James, Gwyddgwian, yr hwn oedd frodor o Sir Aberteifi, wedi bod yn myn'd a d'od i'r sir hono, lle yr oedd y tân yn goddeithio i raddau mawr, ac yntau ei hun trwy hyny wedi ei danio gan y gwres. Cynhelid cyfarfod gweddi yn y capel yn fore un Sabbath, pryd yr oedd rhyw afael mwy na'r cyffredin yn y gweddïo a'r canu. Y Parch. Robert. Williams, Aberdyfi, oedd yn pregethu yno am 10 y Sabbath hwnw. Tra yr oedd yn agoshau at y capel, oblegid daethai y bore hwnw o'i dŷ ei hun yn Aberdyfi, safai ar y bont gerllaw, a sylwai fod rywbeth tra gafaelgar a nefolaidd yn y canu; teimlai rywbeth fel trydan yn myned trwyddo, nes ei godi i agwedd ysbrydoledig yn y fan. Torodd yn orfoledd mawr yn y capel y boreu hwnw. Dyma y tro cyntaf i Mr. Williams gael ei drwytho gan y diwygiad. Bu y Sabbath yn ddechreuad cyfnod newydd ar grefydd yn ardal. Toddodd y caledwch a'r anystyriaeth o flaen y dylanwad dwyfol; dychwelwyd llawer at grefydd, ac mae yr ardal yn gwisgo gwedd grefyddol o hyny hyd heddyw. Aeth llawer o flynyddoedd heibio wedi hyn heb fod yr un enaid o fewn y fro na byddai yn mynychu moddion gras. Mae rhif yr aelodau eglwysig yn awr yn 34. Yn ystod y chwe' blynedd ar hugain diweddaf cafodd yr eglwys y cymeriad o fod yn eglwys weithgar. Yn adroddiad gweinidog