Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/231

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr eglwys am ei lafur yno yn y flwyddyn 1869, yr hwn a ddarllenwyd yn y Cyfarfod Misol, ceir a ganlyn,—"Mae yr holl ardal yn dyfod i wrando yr efengyl heb ddim un yn esgeuluso. Mae dwy ran o dair o'r eglwys ar gyfartaledd yn dyfod ynghyd i'r society ganol yr wythnos, a byddant oll yn adrodd y pregethau a'u profiadau yn rhwydd. Bydd y meibion sydd mewn oed hefyd oll yn cymeryd rhan gyhoeddus yn y gwahanol gyfarfodydd. Cynhelir cyfarfod darllen un noswaith bob wythnos yn nhymor y gauaf, a bydd mwyafrif yr Ysgol Sul yn y cyfarfod hwnw." Yn y Cyfarfod Ysgolion a fu yno y flwyddyn hon (1887) dywedai yr arolygwr, nad oedd ond un yn yr ardal heb fod yn aelod o'r Ysgol Sul. Un peth hynod yn hanes yr eglwys ydyw, aeth pedair blynedd ar ddeg agosaf i'w gilydd heibio heb i ddim un o aelodau yr eglwys farw. Yr oedd colofn y marwolaethau yn yr Ystadegau eglwysig yn Maethlon yn 0 am bedair blynedd ar ddeg. Ar y dydd cyntaf o Ionawr, 1885, agorwyd y capel presenol. Un waith o'r blaen y buwyd yn agor capel yn yr ardal er creadigaeth y byd. Adeiladwyd ef yn y lle yr oedd yr hen gapel. Y cynllunydd oedd Mr. David Owen, Machynlleth. Yr adeiladydd, Mr. David Davies, Pennal. Y mae yn gapel hardd o fewn ac oddiallan, ac yn un o'r rhai mwyaf cysurus i lefaru ac i wrando o fewn y sir. Yr oedd yr holl draul gyda'r capel, a'r ychwanegiadau a wnaed ar y tŷ yn £313, ac fe dalwyd pob dimai o'r ddyled ddiwrnod ei agoriad, heb gael dim help o un mau ond yr hyn a wnaeth yr ardal ei hun, a'r hyn a gasglasant gan eu cymydogion a'u cyfeillion. Pregethwyd yn yr agoriad gan y Parchn. W. Thomas, Dyffryn, W. Williams, Corris, a J. Hughes, M.A., Machynlleth.

Y blaenoriaid a fu yma ar ol adeiladu y capel cyntaf oeddynt, John Jones, Llanerchllin; symudodd yn fuan i Aberdyfi. Robert Lewis, Fadfa; symudodd i Abertrinant. John Daniel, Erwfaethlon; ymfudodd ef a'i deulu i'r America. Bu John Vaughan, Brindinas, yn gwneyd gwaith blaenor am