Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/232

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flynyddoedd, ond nid aeth i'r Cyfarfod Misol i gael ei dderbyn. Thomas James, Gwyddgwian, brawd i'r diweddar Barch. John James, Graig. Yr oedd ef yn llawn zel a gweithgarwch am y tymor y bu yn aros yn yr ardal. Symudodd i Sir Aberteifi, Daeth Hugh Owen, ac y mae yn awr yn aros yn Llundain. Tycapel, i'r ardal oddeutu yr un amser ag ef, a dyma y pryd y dechreuodd llewyrch ar yr achos. Robert Joncs, Erwfaethlon. Bu ef farw Rhagfyr 13eg, 1869, yn 43 oed. Dyn ieuanc egwyddorol a chrefyddol; cadarn yn yr athrawiaeth, ac yn neillduol o hyddysg yn yr Ysgrythyrau. Yn ei wybodaeth o'r Beibl, yr oedd yn rhagori ar bron bawb yn y wlad. Bu yr achos crefyddol yn cael gofalu am dano am flynyddoedd gan y ddau flaenor rhagorol, Hugh Owen, Tycapel, a William James, Dyffrynglyngil, am y rhai y ceir ychwaneg o hanes mewn penod arall.

Parch. Edward Roberts, Dyffrynglyngil.—Mab oedd ef i John Roberts, o'r lle uchod, a anwyd yn y flwyddyn 1814. Daeth i'r seiat o dan argyhoeddiad dwys, oddeutu 15 oed. Dewiswyd ef yn flaenor yn Maethlon yn 20 oed. Yn fuan, wedi hyny dechreuodd bregethu, a'i bregeth gyntaf oedd ar y geiriau, "Amser blinder yw hwn i Jacob, ond efe a waredir o hono." Aethi Athrofa y Bala; ond oherwydd afiechyd, gorfu iddo ddychwelyd adref ymhen wyth mis. Bu farw Rhagfyr 27ain, 1840. Yr oedd yn wr ieuanc hynod o grefyddol.

Parch. Humphrey Evans, Dyffryngwyn.—Daeth yma ychydig ar ol y flwyddyn 1850, a bu ei arhosiad yn y lle am tua 10 mlynedd, mewn adeg yr oedd yr eglwys yn ychydig mifer. Adnabyddid ef fynychaf wrth yr enw Humphrey Evans, Ystradgwyn, neu Humphrey Evans, Maethlon. Ond symudodd yn niwedd ei oes i fyw i Ddolgellau, ac yno y bu farw yn 1864. Dyn gonest, cywir, didderbynwyneb ydoedd. Triniai bawb yn ol eu natur a'u tymherau eu hunain, a dywedai ei feddwl yn blaen wrth bawb yn bersonol, ac wrth bregethu. Deuai ei ragoriaethau i'r golwg wrth gadw y