Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/233

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarfod eglwysig, ac wrth gyfranu yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd. Adroddir hanesyn nodweddiadol o hono wrth fedyddio yn Maethlon. Yr oedd yn y Dyffryngwyn was o'r enw Isaac, dyn o Taliesin, Sir Aberteifi, a'i rieni yn perthyn i'r. Bedyddwyr, felly yr oedd Isaac heb ei fedyddio. Gofynai. H. E. iddo a garai ef iddynt ei fedyddio yn Maethlon. Yntau a ddywedai nad oedd yn dewis gwneyd hyn heb yn gyntaf ymgynghori â'i rieni. Wedi bod gartref, cafodd ganiatad gan. ei rieni. Yna aed i'w fedyddio yn y capel, a dywedai Humphrey Evans: "Nid yw Isaac yr un fath â ni; wedi ei ddwyn i fyny gyda y Bedyddwyr y mae ef, ac y maent hwy, fel y gwyddoch chwi, yn hoff iawn o ddŵr, a chan eu bod mor hoff o ddŵr, mi ddefnyddia i gymaint sydd yma o hono," a thywalltodd y dŵr oll ar ei ben. Dro arall, yr oedd yn bedyddio Morgan Jones, y bugail, yntau hefyd o Sir Aberteifi, ac wedi ei ddwyn i fyny gyda'r Bedyddwyr. Ar ol ei fedyddio,. dywedai H. E.,—"Wel, dyna ti wedi dy fedyddio; fe elli di fyn'd yn ol at dy bobl eto, ac iddynt hwythau fod eisiau dy fedyddio, ond cofia di na fydd hyny ddim yn fedyddio; fedyddir byth ond hyny monot ti——un ffydd, un bedydd os cei di dy drochi eto, fydd hyny ddim ond trochi fel trochi dafad."

John Jones, mab i John Daniel, Erwfacthlon, a ddechreuodd bregethu yn Macthlon, a chafodd ganiatad i fyned i Athrofa y Bala yn Nghyfarfod Misol Mawrth 30ain, 1843. Ymfudodd yn fuan wedi hyny i'r America. David Williams, Gwyddgwian, a fu yn ffyddlon gyda'r achos yma; efe am dymor oedd yn codi y canu. Ymfudodd yntau i America, a dechreuodd bregethu yno. Yma hefyd y dechreuodd y Parch. Owen Evans, Bolton, bregethu, mewn oedran tra ieuanc.

Y Parch. William Jones, Llanerchllin.—Adnabyddid ef yn agos i'w gartref wrth yr enw uchod, enw y ffermdy lle y preswyliai, ond mewn cylchoedd eangach, wrth yr enw William Jones, Maethlon, enw yr ardal. Symudodd ei rieni i'r ardal