Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/234

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hon o Talybont, Llanegryn, pan oedd ef yn ddyn ienanc. Yr oedd ei fam yn gyfnither i John Jones, Penyparc, ac megis y crybwyllwyd yn hanes Maethlon a Llanegryn, hynodid hi tu hwnt i bawb yn ei hoes oherwydd ei chrefydd a'i duwioldeb. Cafodd plant Talybont addysg grefyddol dda gan eu mam, ac yr oeddynt yn ffrwyth addfed wedi eu hachub ymhlith ieuenctyd cyntaf yr ardaloedd hyn, ar flaen llanw Diwygiad mawr Beddgelert. Yr oedd W. Jones felly yn un o'r rhai a gychwynodd tua'r wlad well o "dan awelon nefol" y diwygiad. Dewiswyd ei frawd John yn flaenor yn Maethlon, yn fuan wedi eu symudiad i'r ardal hon, ac yn union wedi hyny, sef tua 1827, dechreuodd William Jones bregethu. Parhaodd yn gyson yn y gwaith hyd ddiwedd ei oes dros ysbaid 28 mlynedd. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau, ar ol uwchlaw blwyddyn o gystudd, Mawrth 21, 1855, yn 52 oed. Tridiau cyn ei ymddatodiad dywedai wrth y Parch. Humphrey Evans, ei gymydog a'i gyd-lafurwr yn y weinidogaeth, "Wel, Humphrey bach, dyma fi wedi myned i'r cyfyngder mawr; yr ydwyf yn Rhosydd Moab; byddaf yn yr Iorddonen yn fuan bellach." "Pa fodd yr ydych yn teimlo?" gofynid iddo. "Mae pobpeth wedi ei settlo," atebai yntau; nid oes genyf ddim i'w wneyd ond marw bellach. Dywedwch ar ol i mi fyned fod marw yn elw mawr i mi." Yr oedd yn ddyn siriol, mwynaidd, caredig, ac yn hynod o fedrus i dynu sylw plant a phawb, gyda'i lais soniarus a thoddedig. Yn ei ddull enillgar i gyfarch cynulleidfa rhagorai ar ei gydoeswyr. Llafuriodd lawer yn yr Ysgol Sabbothol, a'r Cyfarfodydd Ysgolion, yn ardaloedd ei gartref. Rhoddai ei ddawn rwydd, a'i lais soniarus, fantais fawr iddo fel holwyddorwr cyhoeddus. Safai yn uchel ymysg lliaws ei gyfeillion fel cyfaill tirion, ac fel gwasanaethwr da yn ngwinllan yr Arglwydd Iesu. Y diweddar Barch. Roger Edwards, Wyddgrug, a ddywedai yn dra chywir am dano, "Yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, a chanddo lais mwyn ac ystwyth, ac yr oedd ei ymddygiadau yn hynod o serchog yn mhobman, ac yr