Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/235

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn gymeradwy iawn gartref ac oddicartref. Pe cawsai hamdden i ymroi i lafurio yn y weinidogaeth, gallasai yn ddiau gyraedd defnyddioldeb mawr, a chryn enwogrwydd." Y mae mab iddo yn byw yn yr hen gartref eto. Mab iddo ef hefyd ydyw y blaenor gweithgar, Mr. W. Jones, Aberdyfi.

Blaenoriaid presenol Maethlon ydynt Mri. Lewis Jones, Richard Jones, Evan James. Bu yr ysgrifenydd mewn cysylltiad â'r eglwys o 1865 hyd 1883. Ac y mae eto yn para i fyned yno i gadw cyfarfodydd eglwysig.

ABERTRINANT

Yr enw boreuol ar y lle hwn, yn wladol a Methodistaidd ydoedd Llanerchgoediog, a'r enw a welir yn argaffedig gyntaf am y daith Sabbath ydyw "Llanerchgoediog, Llanfihangel, a Corris." Wrth yr enw hwn yr â yr ardal eto ar lafar gwlad. Pan yr adeiladwyd yno gapel y cafodd y lle yr enw newydd. Adeiladwyd y capel ar lecyn lle mae tair aber fechan, neu dri nant yn cydgyfarfod, ac yna yr enw—Aber-tri-nant. Ardal wledig ydyw, yn sefyll oddeutu haner y ffordd rhwng Bryncrug ac Abergynolwyn. Ac o ran y wedd allanol, a nifer y trigolion, erys yn awr yn debyg i'r hyn ydoedd gan' mlynedd yn ol.

Y crybwylliad cyntaf am Fethodistiaeth ardal Llanerchgoediog ydyw, ei bod yn un o'r manau yr ymwelai y brodyr o Ddolgellau â hwy, i'w cynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddïau a societies, yr hyn gymerodd le oddeutu 1793. Y flwyddyn ganlynol, ymunodd Harri Jones, Nantymynach, â chrefydd, yr hwn a ddaeth yn brif golofn yr achos yn yr ardal, ac yn un o'r dynion mwyaf defnyddiol gydag achos yr Arglwydd yn yr holl wlad. Y flwyddyn ganlynol i hon, sef blwyddyn yr erledigaeth fawr, 1795, rhoddwyd dirwy o £20 ar ŵr o'r enw Griffith Owen, Llanerchgoediog, am gynwys pregethu yn ei dŷ heb ei recordio yn ol y gyfraith. "Aeth y brawd Hugh Lloyd, un o flaenoriaid Dolgellau, a minau," ebe y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, "yn ddioedi i Gorris, at