Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/237

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nantymynach y dechreuwyd cadw yr ysgol, oddeutu dechreu y ganrif hon. A dywed yn mhellach nad oedd Harri Jones ar y cyntaf yn bleidiol i'r ysgol, er rhagored gŵr ydoedd, ond wedi iddo gael ei enill o'i phlaid daeth yn gefn mawr iddi. Cafodd llanciau yr ardal ar eu meddwl i gychwyn Ysgol Sul o honynt eu hunain, a chynorthwyent y porthwr i ollwng y gwartheg allan o'r beudy, ac wedi ei lanhan eisteddent ar bren y preseb, i gario ymlaen waith yr ysgol. Y nifer a ddaeth ynghyd y tro cyntaf oedd chwech, ond cynyddasant cyn hir i oddeutu ugain. Nid oedd neb yn eu plith yn proffesu, ac felly dechreuent ar waith yr ysgol heb weddïo, dim ond trwy ddarllen a chanu yn unig. Ar ol i Harri Jones ymuno â'r ysgol, symudwyd hi o feudy Nantymnynach, i un o'r tai sydd yn ymyl y capel presenol, yr hwn a gymerwyd o dan ardreth flynyddol, ac yn y tŷ hwnw y buwyd yn addoli hyd ar ol marwolaeth Harri Jones. Cynydd a llwyddiant yr Ysgol Sul a barodd iddynt benderfynu adeiladu capel. Oddeutu yr amser hwn hefyd, feallai, yr aethant yn eglwys ar wahan yn hollol i Bryncrug, a dywedir fod rhif yr aelodau o 15 i 20 pan yn symud o'r tŷ anedd i'r capel.

Dyddiad gweithred y capel am y tro cyntaf ydyw, Mai 12ed, 1832. Ac mae yn sicr mai oddeutu y pryd hwnw yr adeiladwyd ef. Hyd y brydles, 99 mlynedd; yr ardreth, chwe swllt yn y flwyddyn. Prynwyd y brydles i fyny yn 1871, am 30p., ac y mae y lle feddiant i'r Cyfundeb yn awr. Tua'r un adeg, hefyd, sicrhawyd mynwent yn perthyn i'r capel. Gorphenwyd clirio y ddyled y tro cyntaf yn 1839. Casglodd y gynulleidfa at y ddyled y flwyddyn hono 16p. 8s., i'w gyflwyno i'r casgliad cyffredinol, a chyflwynwyd yn ol iddi hithau 41p. 5s. 6c. Yn y flwyddyn 1876, adnewyddwyd a helaethwyd y capel, gyda thraul o oddeutu 100p. Gall eistedd ynddo, 112. Gwerth presenol y capel a'r eiddo perthynol iddo, 293p. Harri Jones, Nantymynach, oedd yr unig flaenor a fu yn gofalu am yr achos yn Abertrinant am 30 mlynedd o'i gych-