Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/239

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phreys, Tymawr, oedd ei gydswyddog yn Abertrinant y pryd hwn.

Robert Lewis, o'r Fadfa, yn agos i Maethlon, a ddiweddodd ei oes fel blaenor yn yr eglwys hon. Bu adeg arno yr oedd yn isel iawn ei ysbryd, ond yn y cyflwr hwnw daeth yr adnod ganlynol i'w feddwl, "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat ti," a thrwy offerynoliaeth yr adnod hon ymadnewyddodd drwyddo, ac ar ol hyn bu farw fel tywysog. Yr oedd yn byw yn nhŷ'r capel, ac yn amser y diwygiad yn fethiantus ac yn analluog i fyned i'r moddion. Clywai y pregethu o'r tŷ, a gorfoleddai yn ei wely gymaint a neb yn y capel.

Bu Mr. Evan Ellis yn flaenor yma am ysbaid cyn iddo symud a chael ei ddewis yn Abergynolwyn.

Edward Jones, Tanycoed, a neillduwyd i'r swydd o flaenor ymhlith y set ddiweddaf a ddewiswyd. Gŵr tawel, tangnefeddus, doeth, a chrefyddol oedd efe. Symudodd i fyw i Dowyn, a bu farw yn gynar yn y flwyddyn 1885.

Byddai Cyfarfodydd Misol yn cael eu cynal yn Abertrinant amser yn ol. Ymddengys mai yr olaf fu yma oedd yn 1850, pryd y llywyddai y Parch. Robert Williams, Llanuwchllyn. Nid oedd ond un blaenor yn yr eglwys y flwyddyn hono. Yn y blynyddoedd rhwng 1844 a 1864, nid oedd yma ond an blaenor y rhan fynychaf, ac weithiau heb ddim un. Cyn y Diwygiad Cyffredinol, 1860, yr oedd yr achos yn isel iawn yn Abertrinant—nid oedd ond dau neu dri a arferai gynal moddion yn gyhoeddus—ond teimlwyd pethau grymus yno yr adeg hono. Enillodd yr eglwys nerth ac yni yn yr adfywiad, ac y mae wedi cadw y nerth a'r yni hyd heddyw. Daeth yr ardal yn gyfan oll i broffesu crefydd. Yr oedd yno un heb ildio i aros yn y seiat yn niwedd y diwygiad, sef William Roberts, Coedygo, ac oherwydd ei fod wedi ei adael yr unig un a elai allan o'r gynulleidfa, teimlai yn bur anesmwyth ei hun, a thynai sylw pawb ato. Ond pan oedd y Parch. E. Morgan, Dyffryn,