Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac â golygiadau arswydlawn am hollbresenoldeb a hollwybodaeth Duw. Byddai yn cymeryd gydag ef i'r mynydd Lyfr y Weddi Gyffredin, a darllenai y Salmau a'r Llithau wrtho ei hun, ac am nad oedd ganddo neb i'w gynghori a'i gyfarwyddo yn y pethau a ddarllenai, collodd yr argraffiadau hyny, a dechreuodd ddilyn cwmpeini drwg. Dilynodd arferion llygredig oeddynt ar y pryd yn arferedig, a daeth yn enwog yn yr arferion hyny ymhlith ieuenctyd gwylltion y fro. Yr oedd uwchlaw 30 oed cyn bod dim pregethu gan neb o'r Ymneillduwyr yn yr un o'r ardaloedd yn agos ato. Ar yr 2il o Fehefin, 1760, yn Nghoed-y-gweddill, ar y llechwedd uwchlaw pentref Llwyngwril, y ganwyd Lewis Morris. Fel hyn y dywed ef am ei ardal enedigol, a'r ardaloedd cylchynol yn more ei oes: Yr oedd agwedd dywyll ac annuwiol iawn ar y wlad y pryd hwnn. Campau llygredig, gwylmabsantau, nosweithiau canu a dawnsio, cwrw cyfeddach, chwareu cardiau, y bel droed ar y Sabbothau, ymladd ceiliogod, a rhedegfeydd ceffylau—pethau fel hyn oeddynt gynulliad hen ac ieuanc; ac wrth ymarfer â hwy, byddai dynion yn gyffredin yn ymladd ac yn curo eu gilydd, Gyda yr arferion annuwiol hyn y treuliais inau ddyddiau gwerthfawr fy ieuenctid, yn hollol ddifeddwl am Dduw, ac enaid, a marw, a barn, a byd arall; ac fel hyn y parheais hyd onid oeddwn yn naw mlwydd ar hugain oed; a rhyfedd rhyfedd na buaswn wedi fy nhori i lawr yn fy annuwioldeb!" Dyna y ddau wr a ddeffrowyd o'u cysgadrwydd ysbrydol gyda'r rhai cyntaf yn y cyfnod hwn, yn yr holl wlad rhwng afon Abermaw ac afon Dyfi. Daeth y ddau yn bregethwyr gyda'r Methodistiaid, a buont fyw yn hir. Eu tystiolaeth hwy, yn ddiau, yw y bwysicaf am agwedd y wlad yn moreuddydd eu hoes, ac am yr hyn a wnaeth yr Arglwydd yn ystod eu bywyd. Ac mae yn bur sicr, hefyd, fod eu hanes hwy eu hunain yn hanes y wlad o amgylch yn gyffredinol y pryd hwnw.

Ychydig iawn o hanes y cymydogaethau hyn yn bellach na chan mlynedd yn ol, sydd ar gael yn un man. Ychydig o ddim