Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/243

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn flaenorol i 1795—feallai rai blynyddoedd yn gynt. Y mae, neu yn hytrach yr oedd yr Hen Felin mewn cwm cul, hynod o'r neillduedig, sydd yn arwain i fyny oddiwrth balasdy Trefry, rhyw filldir o bellder o Aberdyfi, y ffordd yr eir i Bennal, ac o fewn cyraedd golwg o'r ffordd fawr bresenol. Mae yr adeilad wedi ei dynu i lawr er's llawer blwyddyn, a dim ond rhan o hono yn aros. Dyma y lle y dechreuwyd yr achos yn Aberdyfi. Clywodd y bobl hynaf sydd yn fyw yn awr lawer o son am Mr. Foulkes, Machynlleth, a Mr. Charles yn dyfod i bregethu i'r Hen Felin. Y mae traddodiad y byddai Mr. Foulkes a'r dagrau ar ei ruddiau yn perswadio pechaduriaid tywyll y lle hwn, er cymaint y diystyrwch a'r anmharch a ddangosid tuag ato. Dywedir fod haid o erlidwyr unwaith wedi dyfod i lawr o Dderwenlas, gan feddwl ei rwystro a'i luchio â cherig, ond pan welsant ei foneddigeiddrwydd a'i ddagrau iddynt ildio, a gadael iddo fyned ymlaen bregethu. Bu William Hugh, Llechwedd, hefyd, yma yn cadw ysgol ddyddiol o dan Mr. Charles. Heblaw yr ychydig grybwyllion hyn, nid oes dim o hanes yr Hen Felin na'i phreswylydd ar gael.

Y lle y cedwid y moddion wedi hyn ydoedd, yn y Tŷ Coch, Penhelig. Yr oedd y lle hwn gryn lawer yn nes i bentref Aberdyfi. Yr un teulu oedd yn perchenogi yr Hen Felin a'r Tŷ Coch, sef hynafiaid y diweddar Rector Griffiths, Merthyr, a hwy felly roddodd ganiatad i agor y drws gyntaf i'r efengyl yn Aberdyfi. Ann Bowen, a Dafydd Ellis, ei gwr, oedd yn byw yn y Tŷ Coch. Yr oedd y wraig hon yn nodedig o grefyddol, ac felly enwir hi o flaen ei gwr. Nid oedd ef yn proffesu, ac eto yr oedd yn ffafriol i'r pregethu oedd yn ei dŷ. Gwneid yr eglwys a'r gynulleidfa i fyny bron yn gwbl yr adeg foreuol hon o wragedd crefyddol, a phan y gwelai Dafydd Ellis hwy yn dyfod dros y banciau ar foreu Sul, dywedai wrth ei wraig, Ann Bowen, "Tyr'd, Nanci bach, mae gwragedd y clogau yn dyfod." Gwraig dduwiol iawn arall oedd Sian Hugh. Bu hi yn cadw ysgol ddyddiol yn Aberdyfi am ryw gymaint o amser.