Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/244

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y ddwy chwaer hyn, Ann Bowen a Sian Hugh, fyddai yn cadw y cyfarfod eglwysig, un yn ei ddechreu a'r llall yn ei derfynu trwy weddi, a phob moddion yr un fath, ond y pregethu yn unig. Adroddai y diweddar Barch. Foulk Evans, Machynlleth, yn agos i ddiwedd ei oes, yr hanes am y tro cyntaf y daeth i Aberdyfi. Yr oedd wedi dyfod yr holl ffordd o Lanuwchllyn, a chedwid seiat yn Aberdyfi nos Sadwrn. Synai yn fawr iawn weled merched yn gwneyd pob peth yno yn gyhoeddus, ac oherwydd ei fod yn ddyn ieuanc, teimlai yn hynod swil yn eu plith. Y tymor y bu y moddion yn cael eu cynal yn Tŷ Coch, mae'n debyg, ydoedd ychydig o ddiwedd y ganrif ddiweddaf, ac ychydig o ddechreu y ganrif hon.

Bu pregethu ac Ysgol Sul dros ryw dymor yn y Volgraig, ffermdy yn agos i haner y ffordd o Aberdyfi i Bennal. Bu Lewis Williams, Llanfachreth, yno yn cadw ysgol ddyddiol, ac y mae llythyr maith o'i eiddo ar gael wedi ei ddyddio yn y Volgraig, Awst 1811. Llythyr ydyw at un o ymddiriedolwyr ysgolion Madam Bevan, yn cynwys ei olygiadau gyda golwg ar yr ysgolion hyny, ac yn gwrthod ar y pryd y cynygiad i fod yn ysgolfeistr ar un o honynt. Ceir, hefyd, fod y moddion wedi bod yn cael eu cynal mewn tŷ yn mhen uchaf pentref Aberdyfi. Yr oedd John Hughes, Pontrobert, yn gweddïo unwaith yn y tŷ hwn, ac ar ganol y weddi fe darawodd y bwrdd a'i ddwrn, nes diffodd y ganwyll. Cafodd gelynion crefydd wybod am y tro, a dywedent y weddi hono—"Dyna weddi dywyll yn sicr."

Wedi hyn, symudwyd y moddion i ystafell a elwid y Store-house, ac yma y buwyd yn addoli am oddeutu ugain mlynedd, hyd nes yr adeiladwyd y capel. Yr oedd y moddion wedi dyfod bellach i ganol y pentref, a'r lle mwyaf manteisiol i'r boblogaeth. Math o oruwch-ystafell oedd y Store-house, wrth ymyl y môr, ac yn gwynebu y porthladd. Dywedai y diweddar Owen Williams ei fod yn cofio bod mewn Ysgol Sul ynddi tra yn ieuanc, pan y daeth llong i mewn i'r porthladd yn