Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/245

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amser yr ysgol ar y Sul, a chododd yr holl ysgolheigion o'u lleoedd, gan adael eu llyfrau a'u Beiblau, ac aethant at y ffenestr, i edrych ar y llong yn dyfod i mewn i'r porthladd. Peth lled ryfedd ynglŷn â'r achos yma ydyw, iddo gael ei gario ymlaen am fwy na deng mlynedd ar hugain o'i gychwyniad heb yr un blaenor wedi ei osod ar yr eglwys. Gwragedd a merched oedd yn gwneyd i fyny y rhan liosocaf o lawer o aelodau yr eglwys yr holl amser hwn. Amrywiai nifer yr eglwys cyn y flwyddyn 1820 o 12 i 20. Wrth edrych dros restr yr aelodau, gwelir nad oedd dim ond dau ddyn yn perthyn i'r eglwys rai o'r blynyddoedd uchod; ac am un flwyddyn, ni cheir ond un dyn: merched oedd yn yr eglwys oll ond un. A phan oedd rhifedi yr eglwys wedi cyraedd 40, yr oedd 30 o'r nifer hwn yn ferched, a 10 yn feibion. Dyma enwau aelodau yr eglwys yn 1809— John Williams, Jane Williams, Mary Morris, Anne Ellis, Jane Hugh, Margared Watkin, Jane Daniel, Anne Ellis, Ellinor Morris, Ellinor Kelley, Mary Peters, Margared Peters, Anne Peters, Margared Ellis. Ni chafwyd yr enwau yn foreuach na'r flwyddyn hon, a chan na cheir enw Anne Bowen yn eu plith, y tebyg ydyw ei bod hi erbyn hyn wedi marw. Yn y rhestr ar ddechreu 1812, John Williams ydyw yr olaf, a'r merched i gyd o'i flaen. Yr ydym yn cael fod amryw o'r chwiorydd a enwir yn y rhestr uchod yn cymeryd rhan flaenllaw gyda'r achos am flynyddau wedi hyn. A gadael allan y pregethu, yr hyn a wneid gan y pregethwyr a lanwent y Sabbothau, ac a ddelent heibio ar eu taith, merched oedd yn gwneyd yr holl wasanaeth gyda'r achos yn Aberdyfi, yn allanol ac ysbrydol. Hwy oedd yn cadw y cyfrifon, yn galw enwau yr aelodau, yn derbyn y casgliadau, yn chwilio am gyhoeddiadau, yn talu i'r llefarwyr, yn gofalu am dalu rhent yr ystafell, am ganwyllau, a phob taliadau eraill. Y mae llyfrau eu cyfrifon am amryw flynyddau ar gael. Gwir nad oedd ganddynt yr un drefn ddeheuig yn hyn, na'r un drychfeddwl am book-keeping, oblegid mae eu cyfrifon frith drafflith, y taliadau a'r derbyn-