Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/246

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iadau ar yr un tudalen, yn ol yr amser y derbynid ac y telid yr arian. Fel engraifft o'u dull o gario pethau ymlaen, ceir, ymhlith eraill, yr items canlynol ymysg eu cyfrifon:—"I Anne Ellis ar ol llefarwyr, 8s. O½c.; Casgliad Bach a chanwyllau, 5s. 3c.; i Mary Morris am ddiod, 3s. 7c.; ceirch, 6c.; Mary Morris wedi rhoddi i'r llefarwyr, 2s.; Margared Peters wedi rhoddi i'r llefarwyr, 4s. 9c,; dyled i Paly, 3s.; ar ol diod, a'r ceffylau, 16s. 7c.; ar ol llefarwyr, 1s. 2c.; dyled ar ol llefarwyr i Paly Morris, 5s.; talu ar ol cyfarfod mawr llefarwyr, 7s.; am wair, 4s. 6c.; am ddiod, 4s." Ceir unwaith un wedi rhoddi 10s. at glirio yr achos; pryd arall, ysgrifenir fod y llyfr yn rhydd. Dyma eto y symiau a dalent i'r pregethwyr a ddeuent yma i bregethu ar y Sabbath ac ar eu taith—Robert Griffith, (Dolgellau), 1s.; John Hughes (Bontrobert), 1s.; John Evans a'i gyfaill, 2s.; Robert Owen, 1s.; Isaac James, 1s.; Foulk Evan (Llanuwchllyn), 1s.; William Hugh, 1s.

Ar ol 1820 mae yr eglwys yn dechreu cynyddu, ac mae Lewis Williams, yr ysgolfeistr, yn ceisio rhoddi pethau mewn trefn, trwy osod rhai o'r dynion i ofalu am y casgliadau. Tynwyd allan gynllun i'w osod o flaen ymwelwyr oeddynt i ymweled â'r eglwys, a dyma ragymadrodd Lewis Williams i'r cynllun "Cynygiad ar drefn i gario yr achos ymlaen yn Aberdyfi, yn ei ranau allanol, a sefydlwyd mewn cydgynulliad a gynhaliwyd yno Mai 7fed, 1821, os bydd i chwi, ein hanwyl ymweledyddion, ei gymeradwyo." Yr oedd pedwar o gasgliadau sefydlog i ofalu am danynt, y Casgliad Misol, Casgliad y Rhent, y Casgliad Chwarterol, a'r Casgliad Bach. Y cynllun y cyfeirir ato oedd, fod dynion penodol i ofalu am bob un o'r casgliadau hyn, a threfniadau yn cael eu gosod pa fodd i'w derbyn, i'w cadw, ac i'w talu, ac yr oeddynt i wneuthur cyfrif a setlo bob haner blwyddyn os nad yn amlach, a "Lewis. Williams i fod yn gynorthwyol at bob casgliad hyd eithaf ei allu." Diben casgliad y rhent oedd i dalu am y Store-house, yr hyn oedd yn 4p. y flwyddyn. Yr oedd y ddau olaf i'w talu