Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/248

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaid Salem, Dolgellau, i erfyn arno ddyfod yno i gadw ysgol. Mae yntau yn ateb y llythyr hwnw Ionawr 17eg, y flwyddyn hono, ac mae y dyfyniad canlynol o'i lythyr yn dangos ei onestrwydd dihafal:—"Mae taerni fy anwyl ysgolheigion yn Aberdyfi, ynghyd â fy anwyl gyfeillion yn mron tori fy nghalon. A golwg ar iselder yr achos yn ein plith, ac y byddaf inau wrth symud yn foddion i'w iselhau yn is, nis gwn beth a wnaf. Nis gallaf ddisgwyl cael rhan yn ngweddïau fy mrodyr a'm chwiorydd, i ddyfod i'ch plith chwi yn bresenol (yr hyn yr wyf yn ei gyfrif yn fraint fawr), ac o ganlyniad y mae arnaf ofn y bydd gŵg Duw arnaf, ac os felly, nis gallaf fod o un buddioldeb yn eich plith. Ystyriwch y mater." Ymha le y cyfarfyddir â dyfnach hunanymwadiad, ac uniondeb amcanion mwy rhagorol? Ymhlith ei gofnodion ceir sylwadau ar bersonau a dderbynid i'r eglwys yn Aberdyfi, ac a ddisgyblid yn yr eglwys, &c. Medi 7fed, 1821, ysgrifena, "Nifer y personau yn y society yn Aberdyfi, 32. Mae un wedi cael ei ddiarddel yn ddiweddar am feddwi, ac y mae wedi cynyg ei hun yn ol Medi 7fed; fe ganiatawyd iddo ryddid i fod ar drial am ryw ysbaid o amser. Y tro hwn, fe ddaeth gwraig arall i'r society, na bu erioed o'r blaen, ac arwydd boddlongar a graddau o oruchwyliaethau yr Ysbryd Glan ar ei chyflwr. Rhoddwyd rhyddid iddi i ddyfod i'r cydgynulliad, ac anogaethau iddi i lynu wrth y moddion, ac y caid ymddiddan â hi eto mewn modd o roi derbyniad i fod yn gyflawn aelod o'r eglwys." A ganlyn sydd engraifft o roddi tocyn aelodaeth y pryd hwnw:—

"Aberdyfi, Mai 11eg, 1820.

"Mae eglwys Dduw yn Aberdyfi yn dymuno llwydd Jane Davies yn lle bynag yr elo, ac ar iddi gael ei derbyn i ymgeledd yr eglwys, mewn hyfforddi, ceryddu, a diddanu; ac yn tystiolaethu ei bod yn aelod yn Aberdyfi gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac iddi air da gan bawb hyd y gwyddom, a chan y gwirionedd ei hun. Am hyny, derbyniwch hi atoch. A hyn, dros yr eglwys, trwy

LEWIS WILLIAMS."