Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/249

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y flwyddyn, 1827, dechreuwyd adeiladu y capel. Perthyn i ystad Ynysmaengwyn yr oedd bron yr oll o Aberdyfi, a theulu a'u llaw yn erbyn y Methodistiaid, fel y gwelwyd, oedd y teulu hwn. Diameu mai hyn fu yr achos iddynt fod mor hir yma heb adeiladu capel. O'r diwedd cafwyd lle i adeiladu yn nghanol y pentref, gan olynydd yr hwn fuasai gynt yn gymaint erlidiwr. Caniatawyd prydles tros 99 o flynyddoedd, am ardreth o 5s. yn y flwyddyn. A gwnaed y capel i gynwys eisteddleoedd i 134. Er fod y lle yn nghanol y pentref, lle diwerth iawn ydoedd, oblegid rhedai afon drwyddo i lawr i'r ôr, ac aethpwyd i draul fawr i gau yr afon i fyny, gan ei bod yn rhedeg drwy y lle yr oeddynt i adeiladu y capel arno. Yr oedd Mr. Owen Williams yn ddyn ieuanc, 27ain oed, y flwyddyn hono, a newydd ymsefydlu yn Aberdyfi. Arno ef y disgynodd y gorchwyl o fyned i'r Cyfarfod Misol i ofyn caniatâd i'w adeiladu. Adroddai yn nechreu y flwyddyn y bu farw yr hanes am dano yn myned i Gyfarfod Misol Dolyddelen ar y neges, pellder rhwng myned a dyfod o 100 milldir. Yr oedd Dolyddelen ac Aberdyfi yr adeg hon yn perthyn i'r un Cyfarfod Misol. Cysgai yn Nolgellau noswaith wrth fyned, ac yn Nhrawsfynydd, yn nhŷ yr hen bregethwr John Peters, wrth ddychwelyd. Yn y Cyfarfod Misol yr oeddynt yn ei holi yn fanwl pa le yr oeddynt yn myned i adeiladu y capel, am ei faint, pwy oedd yn myned i'w adeiladu, a pha le yr oeddynt yn cael arian. "Ac yn y Cyfarfod Misol hwnw," meddai, "yr oedd achos Cadwaladr Owen, a David Jones, Caernarfon, yn dod ymlaen iddynt gael dechreu pregethu."

Gwaith mawr oedd adeiladu capel y pryd hwnw. Yr oedd yn rhaid talu am bob manylion, nid i gontractor fel yn awr, ond i bob gweithiwr yn bersonol, talu am lifo y coed, talu am durnio pob post, a cholofn, a ffon yn y grisiau, talu am gludo hoelion, talu am losgi calch, talu am ei bwyso, &c. Yr oedd yn rhaid adeiladu ystabl hefyd, a thair stall ynddi. Aeth y draul rhwng pob peth gryn dipyn dros 400p. Yr oll a gasglwyd