Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hanes sydd yn argraffedig yn flaenorol i'r Diwygiad Methodistaidd, hyny ydyw, y diwygiad Methodistaidd yn yr ardaloedd yma, yr hyn oedd fwy na deugain mlynedd yn ddiweddarach na dechreuad Methodistiaeth yn Nghymru. Mae y defnyddiau felly, o angenrheidrwydd, yn brinion. Nid oes, gan hyny, ddim i'w wneyd, er mwyn cael rhyw syniad am gyflwr y trigolion cyn i grefydd wneuthur ei hôl arnynt, ond ceisio casglu ychydig hanesion a ffeithiau sydd yn wasgaredig yma a thraw ar lafar gwlad. Pe buasid yn amcanu ysgrifenu hanes rhyfeloedd, a gwleidyddiaeth, a beirdd yr amser gynt, yn y rhan yma o'r wlad, ni fuasai y defnyddiau o gwbl yn brinion. Ond gan mai rhoddi hanes crefydd ydyw yr amcan, mae y gwaith yn gyffelyb i wneuthur priddfeini heb ddim gwellt.

Ond er mai ychydig sydd wedi ei ysgrifenu yn un man am ffordd y trigolion o fyw, a'u cyflwr yn gymdeithasol a moesol, yn y Dosbarth Rhwng y Ddwy Afon, y mae cryn dipyn o hanes y rhanau eraill o'r sir a'r siroedd cylchynol ar gael. Rhydd hyny ryw gymaint o wybodaeth i ni pa fodd yr oedd yma, oblegid yr hyn oedd cyflwr un ran o Gymru, yr un peth, fel rheol, oedd cyflwr pob rhan o honi. Nid oedd y cyfleusderau. i dramwyo o'r naill fan i'r llall ond anhwylus ac anniben o'u cymharu â'r hyn ydynt yn awr; ond hynod mor gyflym yr ymledai arferion drwg a llygredig. Alaethus a thrwm ydyw yr hanes sydd wedi cael ei roddi lawer gwaith am yr hyn oedd yn cael ei wneyd yn Nghymru yn nyddiau ein tadau. Feallai mai y darluniad mwyaf cyffrous a disgrifiadol ydyw yr hyn sydd i'w gael yn yr ymddiddan rhwng Mr. Charles a'r hybarch John Evans, o'r Bala. Yr oedd John Evans wedi dyfod i fyw i'r Bala yn 1742, ac felly medrai roddi hanes yr hyn a welsai â'i lygaid ei hun. Mae ei dystiolaeth ef am gyflwr y wlad yn y cyfnod uniongyrchol o flaen y flwyddyn 1785 yn bwysig. Fel hyn yr adrodda :"Ie, yr oedd tywyllwch mawr yn y wlad. Beiblau oeddynt yn dra anaml; ychydig iawn o'r bobl gyffredin a fedrent air ar lyfr; ac arferion y wlad oeddynt yn