Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/250

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

at y draul yn Aberdyfi oedd, 32p. 2s. 9c. Casglwyd ato yn Nhowyn, 4p. 10s. 9c.; yn Llundain, 4p. 7s. 6c. Y cyfan, 43p. 11s. Cariodd pob ffermdy yn Nghwm Maethlon ddefnyddiau at adeiladu y capel, ac y mae cyfrif wedi ei gadw am bob diwrnod a phob ceffyl a fu o'r Cwm yn gweithio wrth y gwaith. Cadben John Ellis oedd y trysorydd a'r ysgrifenydd, a chadwodd gyfrifon manwl o'r cyfan ynglyn a'r adeiladu—y derbyniadau a'r taliadau. Y mae beddrod y gŵr da hwn, ynghyd a'i briod, Anne Ellis, yr hon a fu yn ddiacones ffyddlon am lawer o flynyddoedd yn Aberdyfi, yn ymyl y porth, yn mynwent Towyn. Wrth gofio y gwasanaeth a wnaeth y ddau hyn i grefydd, nid hawdd ydyw myned heibio i'w beddrod heb deimlo parch i'w llwch. Yn hen Oleuad Cymru, Rhagfyr, 1828, ceir yr hanes canlynol am agoriad y capel:—

"Ddydd Mawrth, yr lleg o Dachwedd, 1828, agorwyd addoldy y Trefnyddion Calfinaidd, yn Aberdyfi, Swydd Feirionydd. Y mae y tŷ addoliad hwn yn hollol gyfleus i'r trigolion, ac yn hynod o luniaidd a hardd. Ei fesur o fewn y muriau yw 33 troedfedd wrth 30. Dechreuwyd yr addoliad am 10 o'r gloch gan Mr. R. Humphreys, Dyffryn, a phregethodd Mr. J. Jones, Glanleri, Swydd Aberteifi, ar Esaiah, xxviii. 16; a Mr. R. Jones, Trawsfynydd, ar Act. ii. 43. Am 2, dechreuodd Mr. R. Jones, a phregethodd Mr. R. Griffith, Dolgellau, ar Heb. ii. 6; a Mr. J. Roberts, Llangwm, ar Act. V. 29—33. Am 6, dechreuwyd gan Mr. W. [H.] Jones, Towyn, a phregethodd Mr. R. Humphreys, Dyffryn, ar Ioan v. 39; a Mr. John Roberts, Llangwm, ar Exodus xii. 5.

Yr oedd y gwrandawyr yn lliosog ar yr achlysur hwn, fel mai o'r braidd y cynhwysid hwy o fewn i'w furiau, a chafwyd lle i farnu, trwy fod y pregethu mor wlithog, mai da i ni oedd bod yno.—J. Williams, Dolgellau."

Syniad yr hen bobl am gapel lluniaidd a hardd oedd ei fod yn square; yr oedd y capel hwn bron yn hollol felly. Mae ei furiau yn aros yn awr, dybygid, fel yr oeddynt y pryd hwnw.