Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/252

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Williams yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, fel blaenoriaid, yn 1850. Yr oedd Richard Hughes yn llawn zel a gwres gyda rhanau ysbrydol yr achos, a mawr oedd y chwithdod a deimlwyd ar ei ol. Lewis Williams yn ddyn heddychol, parod i gydweithredu ymhob peth, Bu farw yn orfoleddus, mewn llawn sicrwydd o'r nefoedd. John Williams, y Custom House, oedd yn ddyn ieuanc tra chrefyddol, ac yn flaenor gobeithiol yn mlynyddoedd olaf ei oes. Dygwyd ef i fyny ar aelwyd Fethodistaidd, a rhoddodd arwyddion, pe yr estynasid ei oes, y buasai yn dyfod yn ddyn pwysig a defnyddiol. Mr. David Williams, yn awr o'r Custom House, Porthmadog, a fu yn flaenor gweithgar yn Aberdyfi.

Y Parch. Robert Williams. Daeth yma o Fanchester, yn niwedd 1842, neu ddechreu 1843. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1844. Dywedir fod gan Mr. Humphreys, y Dyffryn, a Mr. Williams, Ivy House, Dolgellau, law yn ei symudiad o Manchester yma, er lles iddo ei hun, ac er mantais i'r achos yn y pen yma i'r sir. Nid oedd ar y pryd yr un pregethwr gyda'r Methodistiaid yn byw yn Aberdyfi, ac ni bu yma neb yn arhosol erioed o'r blaen. Yn fuan wedi dyfod yma dechreuodd gadw shop, a thrwy ei ddiwydrwydd ef a'i deulu daeth ymlaen yn y byd, fel yr ydoedd cyn diwedd ei oes mewn sefyllfa weddol gysurus. Bu ei ddyfodiad yma yn rhagluniaethol iawn ar lawer cyfrif. Ymroddodd i weithio. gyda'r achos yn ei holl ranau, ac enillodd yn fuan ddylanwad mawr yn yr eglwys, a'r pentref, a'r holl gylchoedd y troai ynddynt. Ei dd ar hyd ei oes oedd llafurus, difrifddwys, duwiolfrydig. Bu am 15 mlynedd yn un o dair prif golofn o dan yr achos yn Nghyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd—y tair oeddynt efe, a Mr. Humphreys, a Mr. Morgan a chyn diwedd ei oes yr oedd yn ddyn pwysig yn Nghymdeithasfa Gogledd Cymru. Pob swydd bwysig gyda'r achos yn y sir, dros lawer blwyddyn, arno ef y disgynai, a phob achos dyrus iddo ef y rhoddid ef i'w drin. Byddai dan eneiniad dwyfol yn