Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/253

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyffredin yn ei weinidogaeth gyhoeddus. Cafodd ei drwytho. yn niwygiad 1859, 1860, tuhwnt i liaws ei frodyr, ac yn y tymor hwnw yr oedd yn anarferol o rymus a phoblogaidd. Pregethai bron ymhob cyfarfod mawr trwy y wlad, a byddai arddeliad a dylanwad anarferol ynglyn a'i weinidogaeth lle bynag yr elai, ac ychydig yn Nghymru, am yr amser hwn, a fu yn foddion i enill mwy o eneidiau at y Gwaredwr nag efe. Yr oedd ei gymeriad crefyddol, a duwiolfrydedd ei ysbryd, yn peri ei fod yn fwy cymwys nag odid neb i weinyddu disgyblaeth eglwysig. Y mae llawer o engreifftiau tra hynod o hono yn myned trwy y gorchwyl hwn ar gof a chadw yn y wlad. Nid oedd yn ddengar yn ei ymwneyd â'i gyd-ddynion, eto oherwydd ei grefyddoldeb dwfn teimlid ei fod yn ddyn cywir a hollol ddidderbynwyneb cyn belled ag yr oedd disgyblaeth eglwysig yn gofyn hyny. Gosododd urddas ar grefydd yn Aberdyfi a'r ardaloedd cylchynol am yr ugain mlynedd y bu yn byw yno. Ond torwyd ef i lawr yn dra chynar. Bu farw Tachwedd 24, 1862, yn 53 mlwydd oed. Cyrhaeddodd y son am ei angladd ymhell ac agos, gan mor fawr ac anrhydeddus ydoedd.. Tywysog a gŵr mawr yn Israel oedd y dwthwn hwnw wedi cwympo." Bu ei weddw byw yn hir ar ei ol, a rhoddodd hi a'i theulu lawer o gynorthwy i gario yr achos ymlaen yn Aberdyfi. Mae y teulu oll erbyn hyn wedi cyraedd i'r wlad well.

Y Parch. Griffith Anwyl.—Dygwyd ef i fyny gyda'r brodyr y Wesleyaid, a bu yn hir yn bregethwr cynorthwyol gyda hwy. Yn Awst 1848, cynygiodd ei hun i'r Methodistiaid; ac yn Bryncrug, Hydref, yr un flwyddyn, derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Yn 1851 derbyniwyd ef yn aelod o'r Gymdeithasfa. Yr oedd efe yn ateb yn hollol i'w enw—gŵr anwyl iawn ydoedd gan bawb. Yr oedd yn gywir yn ei ymwneyd â'r byd, yn ddirwestwr zelog, yn wladwr da, yn gymydog caredig, yn rhoddi gair da i bawb, ac yn cael gair da gan bawb; yn onest, yn ddihoced, yn grefyddol. Bu farw yn y flwyddyn 1865, a theimlid galar ar ei ol trwy holl gylch ei adnabyddiaeth.