Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/255

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r nefoedd. Bu farw yn dra sydyn yn niwedd 1879, a bu galar mawr ar ei ol. Y Parch. R. E. Morris, B.A., a fu yn weinidog ar yr eglwys o 1882 i 1885. Yn niwedd 1885, ymsefydlodd y Parch. John Owen yma, i ofalu am yr eglwys Gymraeg a Saesneg.

Cadben John Lewis.—Bu yn flaenor yr eglwys hon am oddeutu 18 mlynedd. Dewiswyd ef i'r swydd tra yr ydoedd gyda'i orchwylion ar y mor, ac ni chafodd gyfle i fod lawer gyda'i frodyr yn yr eglwys, hyd nes ydoedd yn ddiweddar ar ei oes. Dyn distaw, hynaws, a'i fryd ar wneuthur daioni. Yr oedd ei sefyllfa yn y byd, a'i gymeriad rhagorol fel gwladwr a Christion, yn peri ei fod yn un o'r dynion pwysicaf yn Aberdyfi. Yr oedd yn nodedig o barod i bob gweithred dda, a deuai yn fwy ymroddedig i grefydd fel yr agosâi i ddiwedd ei ddyddiau. Anfynych y gwelir colli neb a gair mor uchel iddo gan fyd ac eglwys. Bu farw Rhagfyr 28ain, 1887.

Y blaenoriaid presenol ydynt, Mri. William Jones, William Lloyd, Morris Rowland, Peter Pryce, a David Hughes.

EGLWYS SAESNEG TOWYN.

Y mae dechreuad achosion Saesneg yn beth diweddar yn hanes Methodistiaeth Sir Feirionydd. Towyn oedd y lle y dechreuwyd achos rheolaidd ac y ffurfiwyd eglwys Saesneg gyntaf yn y sir. Ac fel y mae dechreu pob symudiad pwysig yn ddyddorol, felly hefyd hanes dechreuad yr eglwys Saesneg gyntaf hon. Y sylw cyhoeddus cyntaf a roddwyd i'r mater ydoedd yr hyn a ganlyn, a geir ymysg gweithrediadau Cyfarfod Misol Dolgellau, Ionawr 3 a'r 4, 1865, —"Sylwyd ar yr angenrheidrwydd am godi achosion Saesneg yn y trefydd, gan fod agoriad y Railway yn debyg o fod yn achlysur i lawer o Saeson ymsefydlu ynddynt. Gofynai Mr. Newell, o Dowyn, am gydsyniad a chefnogaeth y Cyfarfod Misol, i sefydlu achos o'r fath yn Nhowyn; cynygiai ef am gael capel haiarn i gychwyn yr achos, ac os byddai i'r Arglwydd Iwyddo eu hymdrechion